NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer materion amrywiol sy’n ymwneud â gweinyddu’r trethi datganoledig.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi Corff Adnoddau Naturiol Cymru fel person y caiff Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) ddirprwyo iddo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi.

Mae rheoliad 4 yn pennu y bydd cyfnod cynllunio cyntaf ACC (at ddibenion ei gynllun corfforaethol) yn cychwyn ar 1 Ebrill 2018 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2019.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cyfraddau llog taliadau hwyr a llog ad-daliadau. Mae rheoliad 5 yn darparu y cyfrifir y cyfraddau llog drwy gyfeirio at gyfradd Banc Lloegr a gyhoeddwyd ddiwethaf yng nghyfarfod diweddaraf Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr. Ond pan fo’r cyfarfod hwnnw wedi ei gynnal o fewn 3 diwrnod gwaith i’r dyddiad y caiff y llog ei gyfrifo, cyfrifir y cyfraddau llog fel pe na bai’r cyfarfod diwethaf hwnnw wedi ei gynnal.

Mae Rhan 4 yn nodi’r gweithdrefnau sy’n gymwys ar gyfer dyfarnu ar anghydfodau o ran a yw gwybodaeth neu ddogfen y mae ACC yn gofyn amdani o dan y pwerau a roddir gan Ran 4 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf CRhT”), wedi ei diogelu gan fraint broffesiynol gyfreithiol.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn glir fod rhaid darparu unrhyw wybodaeth neu ddogfen nad yw mewn anghydfod, y mae ACC yn gofyn amdani, i ACC yn unol â’r hysbysiad a ddyroddwyd.

Mae rheoliad 10 yn pennu’r weithdrefn ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud ag unrhyw wybodaeth neu ddogfen y mae ACC yn gofyn amdani yn ystod gohebiaeth. Yn yr achosion hyn, rhaid i’r person sy’n cael yr hysbysiad (“derbynnydd yr hysbysiad”) lunio rhestr o unrhyw ddogfennau y mae’n eu hystyried yn freintiedig. Mae rheoliad 10(2)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i dderbynnydd yr hysbysiad gyflwyno’r rhestr honno i ACC erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer y weithdrefn pan fo ACC yn gofyn am ddogfen yn ystod archwiliad o fangre. Yn yr achosion hyn, rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad osod unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch mewn cynhwysydd priodol y mae rhaid ei roi i ACC. Mae rheoliad 11(4) yn ei gwneud yn ofynnol i ACC wneud cais i’r tribiwnlys ystyried a datrys yr anghydfod o fewn 42 diwrnod gwaith.

Mae rheoliad 12 yn darparu bod derbynnydd yr hysbysiad i gael ei drin fel ei fod wedi cydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch sy’n aros am benderfyniad gan y tribiwnlys neu hyd nes y bydd derbynnydd yr hysbysiad ac ACC yn dod i gytundeb.

Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i’r tribiwnlys ddatrys yr anghydfod a chyfarwyddo datgeliad unrhyw ddogfen (neu unrhyw ran o ddogfen) y mae’n dod i’r casgliad ei bod yn anfreintiedig.

Mae rheoliad 14 yn darparu y caiff derbynnydd yr hysbysiad ac ACC gytuno i ddatrys yr anghydfod ar unrhyw adeg cyn i’r tribiwnlys ddod i benderfyniad.

Yn unol â rheoliad 1(2), daw Rhannau 1 a 2 i rym ar 21 Tachwedd 2017, a daw gweddill y darpariaethau i rym ar 1 Ebrill 2018.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.