2017 Rhif 1022 (Cy. 260)
Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2017
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(1), 27(7)(a), 101(3) a (4), 163(1) a (2), a 189(1)(b) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 20161.
RHAN 1Cyffredinol
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2017.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018 ac eithrio rheoliadau yn Rhannau 1 a 2 sy’n dod i rym ar 21 Tachwedd 2017.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf CRhT” (“the TCM Act”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016;
ystyr “derbynnydd yr hysbysiad” (“notice recipient”) yw’r trethdalwr y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 86 o’r Ddeddf CRhT neu drydydd parti y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 87 neu 89 o’r Ddeddf CRhT, neu berson a awdurdodir i weithredu ar ei ran;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw diwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes o fewn yr ystyr a roddir i “non-business days” yn adran 92 o Ddeddf Biliau Cyfnewid 18822;
ystyr “dogfen” (“document”) yw gwybodaeth, dogfen neu ran o ddogfen; ac
ystyr “dogfen y mae anghydfod yn ei chylch” (“document in dispute”) yw dogfen y mae anghydfod yn ei chylch rhwng ACC a pherson sydd wedi cael hysbysiad gwybodaeth, o ran a yw’r ddogfen yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol.
RHAN 2ACC
Dirprwyo swyddogaethau3
Mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi ei ragnodi fel person y caiff ACC ddirprwyo iddo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi o dan adran 14(1) o’r Ddeddf CRhT.
Pennu’r cyfnod cynllunio4
Mae’r cyfnod sy’n dechrau ag 1 Ebrill 2018 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 wedi ei ragnodi fel y cyfnod cynllunio cyntaf at ddibenion adran 27(7)(a) o’r Ddeddf CRhT.
RHAN 3Cyfraddau llog
Ystyr “cyfradd Banc Lloegr”5
1
Yn y Rhan hon, “cyfradd Banc Lloegr” sy’n gymwys ar gyfer diwrnod yw’r gyfradd banc swyddogol a gyhoeddwyd ddiwethaf yng nghyfarfod Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr a gynhaliwyd cyn y diwrnod hwnnw.
2
Ond pan fo diwrnod yn dod o fewn 3 diwrnod gwaith i gyfarfod y gwnaed y cyhoeddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ynddo, ystyr “cyfradd Banc Lloegr” ar gyfer y diwrnod hwnnw yw’r gyfradd a bennir o dan y paragraff hwnnw fel pe na bai’r cyfarfod hwnnw wedi ei gynnal.
Cyfradd llog taliadau hwyr6
Y gyfradd llog taliadau hwyr at ddibenion adran 157 o’r Ddeddf CRhT yw’r ganran y flwyddyn a ganfyddir drwy ddefnyddio’r fformiwla a ganlyn—
Cyfradd llog ad-daliadau7
Y gyfradd llog ad-daliadau at ddibenion adran 161 o’r Ddeddf CRhT yw pa un bynnag o’r canlynol sydd uchaf—
a
0.5% y flwyddyn; a
b
cyfradd Banc Lloegr.
RHAN 4Datrys anghydfodau o ran a yw dogfen yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol
Cymhwyso’r Rhan hon8
Mae’r Rhan hon yn gymwys—
a
pan fo ACC wedi dyroddi hysbysiad gwybodaeth i berson ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—
i
yn ystod gohebiaeth; neu
ii
yn ystod archwiliad o dan Ran 4 o’r Ddeddf CRhT, a
b
pan fo anghydfod rhwng ACC a derbynnydd yr hysbysiad o ran a yw dogfen y gofynnwyd amdani yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol.
Gofyniad i ddarparu gwybodaeth a chyflwyno dogfennau nad oes anghydfod yn eu cylch9
Nid oes dim yn y Rhan hon yn effeithio ar—
a
unrhyw ofyniad o dan hysbysiad gwybodaeth i ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen nad oes anghydfod yn ei chylch; na
b
y pwerau o dan Ran 4 o’r Ddeddf CRhT i archwilio mangreoedd ac eiddo arall.
Gweithdrefn pa fo anghydfod ynghylch hysbysiad gwybodaeth a roddir mewn gohebiaeth10
1
Mae’r weithdrefn a ganlyn yn gymwys pan fo anghydfod yn dod o fewn rheoliad 8(a)(i).
2
Ar ôl cael hysbysiad gwybodaeth, rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—
a
pennu mewn rhestr bob dogfen sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad gwybodaeth y mae anghydfod yn ei chylch, ynghyd â disgrifiad o natur a chynnwys y ddogfen honno; a
b
cyflwyno’r rhestr honno i ACC erbyn y dyddiad a roddir yn yr hysbysiad gwybodaeth ar gyfer cyflwyno’r ddogfen.
3
Ond nid yw disgrifiad o’r ddogfen yn ofynnol pan fyddai disgrifiad o’r fath yn arwain at anghydfod dros fraint.
4
O fewn 20 diwrnod gwaith i gael y rhestr y cyfeirir ati ym mharagraff (2), rhaid i ACC hysbysu derbynnydd yr hysbysiad am unrhyw ddogfen ar y rhestr y mae’n ei gwneud yn ofynnol ei chyflwyno ac y mae’n ystyried ei bod yn anfreintiedig.
5
Ar ôl cael yr hysbysiad o dan baragraff (4), rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—
a
cyflwyno unrhyw ddogfen y mae’n cytuno ei bod yn anfreintiedig; a
b
i’r graddau bod anghydfod yn parhau ynghylch statws unrhyw ddogfen, gwneud cais i’r tribiwnlys.
6
Rhaid i gais o dan baragraff (5)(b)—
a
mynd gyda chopi o’r dogfennau y mae anghydfod yn parhau yn eu cylch; a
b
cael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol y mae derbynnydd yr hysbysiad ac ACC i gytuno arno, ond mewn unrhyw achos, yn ddim hwyrach na 20 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad a roddir gan ACC o dan baragraff (4).
Gweithdrefn pan fo anghydfod ynghylch hysbysiad gwybodaeth a roddir yn ystod archwiliad eiddo11
1
Mae’r weithdrefn a ganlyn yn gymwys pan fo anghydfod yn dod o fewn rheoliad 8(a)(ii).
2
Ar ôl cael yr hysbysiad gwybodaeth, rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—
a
dangos i ACC bob dogfen sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad gwybodaeth y mae anghydfod yn ei chylch; a
b
rhoi unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch mewn cynhwysydd priodol sy’n rhwystro’r cynnwys rhag bod yn weladwy.
3
Rhaid i’r cynhwysydd—
a
cael ei selio, ei labelu a’i lofnodi gan dderbynnydd yr hysbysiad;
b
cael ei gydlofnodi gan ACC; ac
c
cael ei gadw gan ACC.
4
O fewn 42 diwrnod gwaith i gael y cynhwysydd, rhaid i ACC—
a
danfon y cynhwysydd i’r tribiwnlys gyda’r sêl yn gyflawn ynghyd â chais i’r tribiwnlys; a
b
anfon copi o’r cais hwnnw at dderbynnydd yr hysbysiad.
Cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth12
Pan fo derbynnydd yr hysbysiad yn cydymffurfio â’r weithdrefn a nodir yn y Rhan hon, mae’r person hwnnw i gael ei drin fel ei fod wedi cydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch hyd nes bod y tribiwnlys yn dyfarnu ar statws y ddogfen neu hyd nes y deuir i gytundeb o dan reoliad 14.
Canfyddiad y tribiwnlys13
1
Pan wneir cais o dan reoliad 10(5)(b) neu 11(4), rhaid i’r tribiwnlys—
a
datrys yr anghydfod drwy gadarnhau a yw’r ddogfen yn freintiedig ai peidio, ac i ba raddau; a
b
cyfarwyddo pa ran neu rannau o ddogfen (os oes rhai) y mae rhaid eu datgelu.
2
Rhaid i’r tribiwnlys sicrhau nad yw unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch yn cael ei datgelu’n amhriodol i unrhyw berson wrth aros am ddyfarniad y tribiwnlys.
Datrys anghydfodau drwy gytundeb14
Caniateir i anghydfod sy’n dod o fewn y Rhan hon gael ei ddatrys ar unrhyw adeg drwy gytundeb rhwng ACC a derbynnydd yr hysbysiad, naill ai yn ysgrifenedig neu fel arall.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)