(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
O dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, rhaid i berson sy’n gweithredu fel gwarchodwr plant neu sy’n darparu gofal dydd i blant o dan wyth oed fod wedi ei gofrestru â Gweinidogion Cymru.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn, a wneir o dan adran 19(4) o’r Mesur, yn diwygio adran 19 o’r Mesur i estyn y gofyniad i gofrestru i bersonau sy’n gweithredu fel gwarchodwr plant neu sy’n darparu gofal dydd i blant o dan ddeuddeng oed. Mae hefyd yn gwneud diwygiad au canlyniadol.
Mae erthyglau 7 a 11 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod person sydd wedi ei gofrestru yn union cyn 1 Ebrill 2016 i ofalu am blant o dan wyth oed neu i ddarparu gofal iddynt i gael ei drin ar 1 Ebrill 2016 ac ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi ei gofrestru i ofalu am blant o dan ddeuddeng oed neu i ddarparu gofal iddynt.
Mae erthyglau 8 a 12 o’r Gorchymyn hwn yn gymwys pan fo gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd yn torri ei amodau cofrestru o ganlyniad i estyn cofrestriad.
O dan erthyglau 9 ac 13 o’r Gorchymyn hwn, mae ceisiadau i gofrestru y mae Gweinidogion Cymru yn eu cael cyn 1 Ebrill 2016 i gael eu trin fel pe baent wedi eu cael ar 1 Ebrill 2016.
Mae erthygl 14 yn darparu nad yw estyn cofrestriad yn erthygl 3 yn effeithio ar atal cofrestriad person dros dro.
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2016.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.