2016 Rhif 971 (Cy. 240)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 mewn perthynas â’r gofyniad am asesiad o’r effaith ar yr amgylchedd a gaiff prosiectau sy’n debyg o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae’n ymwneud â chynllunio gwlad a thref2 a thrwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno ac adran 71A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19903 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2016.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Tachwedd 2016.

(3)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 20162.

Yn lle rheoliad 57(2) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 20164 rhodder—

“(2)

Pan fo awdurdod yn gyfrifol am benderfynu ar gais AEA, mae erthyglau 22 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau) a 23 (ceisiadau a wneir o dan amod cynllunio) o Orchymyn 20125 yn cael effaith fel pe bai—

(a)

pob un o’r cyfeiriadau yn erthygl 22(2)(a) a 23 at gyfnod o 8 wythnos yn gyfeiriad at gyfnod o 16 wythnos; a

(b)

y cyfeiriad yn erthygl 22(2)(aa)6 at y cyfnod o 12 wythnos yn gyfeiriad at y cyfnod o 20 wythnos.”

Darpariaeth drosiannol3.

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ceisiadau y ceir diwygiadau yn eu cylch gan yr awdurdod ar neu cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

O dan adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”), caiff person sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio, neu am unrhyw gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol gan amod neu gyfyngiad a atodir i ganiatâd cynllunio, apelio i Weinidogion Cymru os nad yw’r awdurdod cynllunio lleol perthnasol yn penderfynu ar y cais o fewn y cyfnod rhagnodedig.

Mae’r cyfnod wedi ei ragnodi yn erthygl 22(2) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Wyth wythnos yw’r cyfnod oni bai y caiff cais ei ddiwygio cyn i’r awdurdod wneud penderfyniad. Os caiff cais ei ddiwygio cyn i’r awdurdod wneud penderfyniad, y cyfnod fydd un ai pedair wythnos o’r dyddiad y daw y diwygiad i law’r awdurdod neu ddeuddeng wythnos o’r dyddiad y cafwyd y cais gwreiddiol, pa un bynnag yw’r hiraf.

Mae rheoliad 57(2) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016 (“Rheoliadau 2016”) yn cynyddu’r cyfnod o wyth wythnos yn erthygl 22(2)(a) i un wythnos ar bymtheg pan fo’r cais yn ymwneud â datblygiad lle mae asesu effeithiau amgylcheddol (“AEA”) yn ofynnol.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi rheoliad 57(2) newydd yn lle’r un presennol yn Rheoliadau 2016. Gall ceisydd apelio ar ôl y cyfnod a ragnodir yn erthygl 22(2) os caiff cais lle mae AEA yn ofynnol ei ddiwygio ond os na chaiff penderfyniad ei wneud yn ei gylch, a daw’r cyfnod hwnnw yn bedair wythnos o’r dyddiad y caiff yr awdurdod y diwygiad neu’n ugain wythnos o’r dyddiad y cafwyd y cais gwreiddiol lle mae AEA yn ofynnol, pa un bynnag yw’r hiraf.

Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.

Ni ragwelir unrhyw effaith ar y sectorau cyhoeddus, preifat na gwirfoddol, neu y rhagwelir ychydig iawn o effaith ar y sectorau hynny. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol.