NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

O dan adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”), caiff person sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio, neu am unrhyw gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol gan amod neu gyfyngiad a atodir i ganiatâd cynllunio, apelio i Weinidogion Cymru os nad yw’r awdurdod cynllunio lleol perthnasol yn penderfynu ar y cais o fewn y cyfnod rhagnodedig.

Mae’r cyfnod wedi ei ragnodi yn erthygl 22(2) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Wyth wythnos yw’r cyfnod oni bai y caiff cais ei ddiwygio cyn i’r awdurdod wneud penderfyniad. Os caiff cais ei ddiwygio cyn i’r awdurdod wneud penderfyniad, y cyfnod fydd un ai pedair wythnos o’r dyddiad y daw y diwygiad i law’r awdurdod neu ddeuddeng wythnos o’r dyddiad y cafwyd y cais gwreiddiol, pa un bynnag yw’r hiraf.

Mae rheoliad 57(2) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016 (“Rheoliadau 2016”) yn cynyddu’r cyfnod o wyth wythnos yn erthygl 22(2)(a) i un wythnos ar bymtheg pan fo’r cais yn ymwneud â datblygiad lle mae asesu effeithiau amgylcheddol (“AEA”) yn ofynnol.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi rheoliad 57(2) newydd yn lle’r un presennol yn Rheoliadau 2016. Gall ceisydd apelio ar ôl y cyfnod a ragnodir yn erthygl 22(2) os caiff cais lle mae AEA yn ofynnol ei ddiwygio ond os na chaiff penderfyniad ei wneud yn ei gylch, a daw’r cyfnod hwnnw yn bedair wythnos o’r dyddiad y caiff yr awdurdod y diwygiad neu’n ugain wythnos o’r dyddiad y cafwyd y cais gwreiddiol lle mae AEA yn ofynnol, pa un bynnag yw’r hiraf.

Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.

Ni ragwelir unrhyw effaith ar y sectorau cyhoeddus, preifat na gwirfoddol, neu y rhagwelir ychydig iawn o effaith ar y sectorau hynny. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol.