2016 Rhif 970 (Cy. 239)
Y Gyfraith Gyfansoddiadol
Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 144(8)(c)1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn2.
Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo yn unol ag adran 144(8ZA)3 o’r Ddeddf honno.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016.

(2)

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Hydref 2016.

Diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 19982.

Ym mharagraff 4 o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, yn lle “Local Government Boundary Commission for Wales” rhodder “Local Democracy and Boundary Commission for Wales”.

Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, drwy newid disgrifiad un o’r cyrff a restrir yn yr Atodlen honno. Mae’r cyfeiriad at Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi ei ddiwygio er mwyn cyfeirio at Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Mae hyn yn dilyn ailenwi’r corff corfforaethol hwnnw o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.