2016 Rhif 97 (Cy. 46)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2016

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 71, 128, 129, 130, 131 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2016.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 19862;

  • ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 19973; ac

  • ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio ȃ Chodi Tȃl) (Cymru) 20074.

Diwygio Rheoliadau 19863

Yn rheoliad 13(2)(q) o Reoliadau 1986, yn lle “31 March 2016” rhodder “31 March 2017”.

Diwygio Rheoliadau 19974

Yn rheoliad 8(3)(q) o Reoliadau 1997, yn lle “31 March 2016” rhodder “31 March 2017”.

Diwygio Rheoliadau 20075

Yn rheoliad 5(1)(aa) o Reoliadau 2007, yn lle “31 Mawrth 2016” rhodder “31 Mawrth 2017”.

Dirymu6

Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 20155 wedi eu dirymu.

Mark DrakefordY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (1986/975) (“Rheoliadau 1986”), Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (1997/818) (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio ȃ Chodi Tȃl) (Cymru) 2007 (2007/1104 (Cy. 116)) (“Rheoliadau 2007”).

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau 1986 i estyn y cyfnod o amser y bydd derbynyddion credyd cynhwysol yn gymwys i gael profion golwg yn rhad ac am ddim hyd at fis Mawrth 2017.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau 1997 i estyn y cyfnod o amser y bydd derbynyddion credyd cynhwysol yn gymwys i gael taliadau i dalu’r costau am declynnau optegol, neu i gael taliadau i gyfrannu tuag at y costau hynny, hyd at fis Mawrth 2017.

Mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau 2007 i estyn y cyfnod o amser y bydd derbynyddion credyd cynhwysol yn gymwys i gael eu treuliau teithio GIG wedi eu talu’n llawn ac i beidio â thalu ffi GIG hyd at fis Mawrth 2017.

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Canlyniadol Diwygio Lles) (Cymru) 2015 (2015/631 (Cy. 51)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas ȃ’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio ȃ’r Rheoliadau hyn.