(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) a daw i rym ar 31 Hydref 2016.
Mae erthygl 2 yn mewnosod cyfeiriadau at safle cartrefi symudol ac at Ddeddf 2013 yn Rhan B y Tabl yn Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007.
Mae erthygl 3 yn gwneud newidiadau i reoliadau 2 a 7(1)(a) o Reoliadau Taliadau Sŵn Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001.
Mae erthygl 4 yn mewnosod cyfeiriad at Ddeddf 2013 yn Rhan 5 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.