xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 91 (Cy. 44)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

27 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Chwefror 2016

Yn dod i rym

1 Mawrth 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 10, 74, 82 a 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012

2.—(1Mae testun Cymraeg Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1) (ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth) mewnosoder “gais am” o flaen y geiriau “ganiatâd adeilad rhestredig”.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall yn nhestun Cymraeg Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/793 (Cy. 108)).

Ni luniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar y costau na’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1990 p. 9. Diwygiwyd adran 10 gan adrannau 42 a 118 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) (“Deddf 2004”). Diwygiwyd adran 74(1), (3) a (4) gan adran 63 o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24). Diwygiwyd adran 74(3) hefyd gan O.S. 2006/1281. Nid yw’r diwygiadau i adran 82 yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd adran 93(1) gan adran 78 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a pharagraff 33 o Atodlen 10 iddi, a mewnosodwyd is-adrannau (6A) a (6B) gan adran 118 o Ddeddf 2004 a pharagraffau 19 a 26 o Atodlen 6 iddi.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan yr adrannau hynny, i’r graddau yr oeddynt yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau hynny yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru.