2016 Rhif 91 (Cy. 44)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 10, 74, 82 a 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 19901 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2016.

(2)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 20122.

(1)

Mae testun Cymraeg Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 20123 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 3(1) (ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth) mewnosoder “gais am” o flaen y geiriau “ganiatâd adeilad rhestredig”.

Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall yn nhestun Cymraeg Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/793 (Cy. 108)).

Ni luniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar y costau na’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.