NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.

Mae rheoliad 4 yn dileu’r gofyniad i dystysgrif gofrestru gynnwys enw’r person â chyfrifoldeb, pan fo un wedi ei benodi.

Mae rheoliad 8 yn dileu gofynion sy’n ymwneud â darpariaeth chwarae mynediad agored.

Mae rheoliadau 5 a 9 i 12 yn diwygio o ganlyniad i Reoliad Gorchymyn Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016 (sy’n estyn gofyniad y rheoliad i bobl sydd wedi cofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 i ofalu am blant neu ddarparu gofal i blant o dan ddeuddeng mlwydd oed). Mae diwygiadau hefyd yn cael eu gwneud i ddileu’r gofyniad i geisydd gyflwyno cais i Weinidogion Cymru am dystysgrif cofnod troseddol fanylach ac i Weinidogion Cymru gydlofnodi’r cais hwnnw.

Mae rheoliad 9 a 10 hefyd yn ailddatgan paragraff 13(1) a 37(1) o Atodlen 1 gyda newidiadau er mwyn ei gwneud yn glir pa bersonau sydd rhaid iddynt fod yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i fod mewn cysylltiad â phlant.

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.