NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn darparu mai 1 Chwefror 2016 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:

  • Adran 18 (dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd);

  • Adran 19 (swyddogaethau’r Comisiynydd);

  • Adran 20 (adolygiadau gan y Comisiynydd);

  • Adran 21 (argymhellion gan y Comisiynydd);

  • Adran 22(1) (dyletswydd i ddilyn argymhellion);

  • Adran 22(4) (dyletswydd i ddilyn argymhellion: cyhoeddi’r ymateb);

  • Adran 23 (adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol);

  • Adran 24 (adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol: gweithgareddau yn ystod y cyfnod adrodd);

  • Adran 25 (cydweithio).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn yn darparu mai 1 Ebrill 2016 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym yr holl ddarpariaethau sy’n weddill (ac eithrio’r rhai hynny a bennir yn erthygl 4 o’r Gorchymyn) o’r Ddeddf a nodir yn yr erthygl honno ac y cyfeirir atynt isod:

  • Adran 2 (datblygu cynaliadwy);

  • Adran 3 (dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus);

  • Adran 4 (y nodau llesiant);

  • Adran 5 (yr egwyddor datblygu cynaliadwy);

  • Adran 7 (datganiadau ynghylch amcanion llesiant);

  • Adran 8 (amcanion llesiant Gweinidogion Cymru);

  • Adran 9 (amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill);

  • Adran 11 (adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol);

  • Adran 12 (adroddiadau blynyddol gan Weinidogion Cymru);

  • Adran 13 (adroddiadau blynyddol gan gyrff cyhoeddus eraill);

  • Adran 15 (yr egwyddor datblygu cynaliadwy: ymchwiliadau’r Archwilydd Cyffredinol);

  • Adran 16 (hyrwyddo datblygu cynaliadwy);

  • Adran 29 (byrddau gwasanaethau cyhoeddus);

  • Adran 30 (gwahoddiadau i gyfranogi);

  • Adran 31 (gwahoddiadau i gyfranogi: dyroddi, ymateb a hyd y cyfranogiad);

  • Adran 32 (partneriaid eraill);

  • Adran 33 (newidiadau mewn cyfranogiad);

  • Adran 34 (cyfarfodydd a chylch gorchwyl);

  • Adran 35 (pwyllgor trosolwg a chraffu awdurdod lleol);

  • Adran 36 (dyletswydd llesiant ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus);

  • Adran 37 (asesiadau llesiant lleol);

  • Adran 38 (paratoi asesiadau);

  • Adran 39 (cynlluniau llesiant lleol);

  • Adran 40(1) i (6) (cynlluniau llesiant lleol: rôl cynghorau cymuned)

  • Adran 41 (paratoi cynlluniau llesiant lleol: gwybodaeth am weithgarwch eraill);

  • Adran 42 (paratoi cynlluniau llesiant lleol: cyngor y Comisiynydd);

  • Adran 43 (paratoi cynlluniau llesiant lleol: ymgynghori pellach a chymeradwyaeth);

  • Adran 44 (adolygu cynlluniau llesiant lleol);

  • Adran 45 (adroddiadau cynnydd blynyddol);

  • Adran 46 (addasiadau i ddeddfiadau);

  • Adran 47 (uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus);

  • Adran 48 (cydlafurio rhwng byrddau gwasanaethau cyhoeddus);

  • Adran 49 (cyfarwyddydau i uno neu i gydlafurio);

  • Adran 50 (dangosyddion perfformiad a safonau);

  • Atodlen 1 (adroddiadau blynyddol gan gyrff cyhoeddus eraill);

  • Atodlen 3 (byrddau gwasanaethau cyhoeddus: darpariaeth bellach);

  • Atodlen 4 (byrddau gwasanaethau cyhoeddus: diwygiadau canlyniadol a diddymu) ac eithrio paragraff 34 o’r Atodlen honno i’r Ddeddf.

Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn yn darparu mai 6 Ebrill 2016 yw’r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym paragraff 34 o Atodlen 4 i’r Ddeddf sy’n darparu ar gyfer diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn cysylltiad â chynlluniau’n dilyn asesiadau o anghenion o dan adran 14 o’r Ddeddf honno.

Daw’r Gorchymyn hwn â gweddill darpariaethau’r Ddeddf nad ydynt eisoes mewn grym i rym.