Rhagolygol

Diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001LL+C

4.—(1Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1, ym mharagraff (3) yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “cyd-bwyllgor” (“joint committee”) yw pwyllgor a sefydlir gan ddau awdurdod perthnasol neu ragor o dan adran 53(1) o’r Ddeddf;;

ystyr “is-bwyllgor adran 54A” (“section 54A sub-committee”) yw is-bwyllgor a benodir gan bwyllgor safonau o dan adran 54A(1) o’r Ddeddf;

ystyr “is-bwyllgor cymunedol” (“community sub-committee”) yw is-bwyllgor a benodir gan bwyllgor safonau awdurdod lleol o dan adran 56 o’r Ddeddf;;

ystyr “pwyllgor safonau” (“standards committee”) yw—

(a)

pwyllgor safonau awdurdod perthnasol;

(b)

cyd-bwyllgor;

(c)

is-bwyllgor adran 54A; neu

(d)

is-bwyllgor cymunedol;.

(3Yn rheoliad 2—

(a)ar ddiwedd paragraff (f) hepgorer “neu”;

(b)ym mharagraff (ff), yn lle’r geiriau sy’n dilyn “ei godi” rhodder “; neu”;

(c)ar ôl paragraff (ff) mewnosoder—

(g)os yw’n ymddangos i’r pwyllgor ei bod yn briodol fel arall caniatáu gollyngiad.

(4Ar ôl rheoliad 2 mewnosoder—

Gollyngiadau a ganiateir yn unol â rheoliad 2(g)

3.(1) Rhaid i ollyngiad a ganiateir gan bwyllgor safonau awdurdod perthnasol o dan adran 81(4) o’r Ddeddf ar y seiliau a nodir yn rheoliad 2(g) ac sy’n parhau i gael effaith, gael ei adolygu gan y pwyllgor safonau unwaith ym mhob cyfnod o 12 mis o’r dyddiad y caniateir y gollyngiad am y tro cyntaf.

(2) Pan fydd yn cynnal adolygiad o dan baragraff (1) rhaid i’r pwyllgor safonau ddyfarnu a ddylai’r gollyngiad barhau i gael effaith.

Gweithdrefn a phwerau pwyllgorau safonau

4.(1) Caiff pwyllgor safonau awdurdod perthnasol atgyfeirio cais am ollyngiad a wneir gan aelod o’r awdurdod i bwyllgor safonau awdurdod perthnasol arall i’r pwyllgor hwnnw ei ystyried a dyfarnu arno.

(2) Caiff swyddog monitro awdurdod perthnasol y gwneir cais am ollyngiad iddo wneud trefniadau, gyda chydsyniad ysgrifenedig cadeirydd pwyllgor safonau yr awdurdod hwnnw ymlaen llaw, i bwyllgor safonau awdurdod perthnasol arall ei ystyried a dyfarnu arno.

(3) Pan fo ymdrechion rhesymol i gysylltu â chadeirydd pwyllgor safonau yr awdurdod perthnasol wedi bod yn aflwyddiannus, caiff is-gadeirydd y pwyllgor safonau roi cydsyniad o dan baragraff (2).

(4) Pan fo swyddog monitro neu bwyllgor safonau yn gwneud trefniadau i bwyllgor safonau awdurdod perthnasol arall ystyried cais am ollyngiad a dyfarnu arno, rhaid i’r swyddog monitro neu’r pwyllgor safonau sy’n gwneud y trefniadau hynny roi hysbysiad am hynny i’r person sy’n gwneud y cais.

(5) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) gynnwys y canlynol—

(a)datganiad bod y mater wedi ei atgyfeirio i bwyllgor safonau awdurdod perthnasol arall i’r pwyllgor hwnnw ei ystyried a dyfarnu arno;

(b)enw’r awdurdod perthnasol arall; ac

(c)y rheswm pam y mae’r cais wedi ei atgyfeirio i bwyllgor safonau yr awdurdod perthnasol arall.

(6) Pan fo’r pwyllgor safonau wedi dyfarnu ar y cais rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am ei benderfyniad i’r canlynol—

(a)yr aelod sy’n gwneud cais am y gollyngiad; a

(b)pwyllgor safonau yr awdurdod perthnasol a atgyfeiriodd y cais.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2016, gweler rhl. 1(1)