Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2016
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Atodiad i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2)
Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Hydref 2016.
Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20062.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a)
yn y diffiniad o “Rheoliadau’r Gymuned” yn lle “Rheoliad 2075/2005” rhodder “Rheoliad 2015/1375”; a
(b)
yn y diffiniad sy’n dechrau â “mae i “Penderfyniad 2006/766””—
(i)
yn lle ““Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”)” rhodder ““Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375 ”)”; a
(ii)
hepgorer ““Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”)”.
(3)
Yn Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth UE)—
(a)
yn y diffiniad o “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), yn lle “Rheoliad 2075/2005” rhodder “Rheoliad 2015/1375”;
(b)
hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”);
(c)
hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”); a
(d)
““ystyr “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig5.”
(4)
Yn Atodlen 2 (darpariaethau Cymunedol penodedig)—
(a)
yng ngholofn gyntaf y cofnod olaf, yn lle “Reoliad 2073/2005” rhodder “Reoliad 2015/1375”; a
(b)
“Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd daliadau y cydnabyddir yn swyddogol eu bod yn cymhwyso amodau tai a reolir roi gwybod i’r awdurdod cymwys am unrhyw ofyniad o Atodiad IV i Reoliad 2015/1375 nad yw bellach yn cael ei gyflawni neu unrhyw newid arall a allai effeithio ar statws Trichinella daliadau.”
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud amrywiol ddiwygiadau i Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy. 5)) i ddarparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig (OJ Rhif L 212, 11.8.2015, t 7).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.