NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud amrywiol ddiwygiadau i Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy. 5)) i ddarparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig (OJ Rhif L 212, 11.8.2015, t 7).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.