xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 845 (Cy. 214)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

16 Awst 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Awst 2016

Yn dod i rym

15 Hydref 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd(2).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Atodiad i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2016.

(2Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Hydref 2016.

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

2.—(1Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “Rheoliadau’r Gymuned” yn lle “Rheoliad 2075/2005” rhodder “Rheoliad 2015/1375”; a

(b)yn y diffiniad sy’n dechrau â “mae i “Penderfyniad 2006/766””—

(i)yn lle ““Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”)” rhodder ““Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375 ”)”; a

(ii)hepgorer ““Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”)”.

(3Yn Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth UE)—

(a)yn y diffiniad o “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), yn lle “Rheoliad 2075/2005” rhodder “Rheoliad 2015/1375”;

(b)hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”);

(c)hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”); a

(d)ar ddiwedd yr Atodlen ychwaneger y diffiniad a ganlyn—

“ystyr “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig(5).

(4Yn Atodlen 2 (darpariaethau Cymunedol penodedig)—

(a)yng ngholofn gyntaf y cofnod olaf, yn lle “Reoliad 2073/2005” rhodder “Reoliad 2015/1375”; a

(b)yn ail golofn y cofnod olaf, yn lle’r testun presennol rhodder y testun a ganlyn—

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd daliadau y cydnabyddir yn swyddogol eu bod yn cymhwyso amodau tai a reolir roi gwybod i’r awdurdod cymwys am unrhyw ofyniad o Atodiad IV i Reoliad 2015/1375 nad yw bellach yn cael ei gyflawni neu unrhyw newid arall a allai effeithio ar statws Trichinella daliadau.

Rebecca Evans

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru.

16 Awst 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud amrywiol ddiwygiadau i Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy. 5)) i ddarparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig (OJ Rhif L 212, 11.8.2015, t 7).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) (“Deddf 2006”) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) (“Deddf 2008”). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf 2006 ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o Ddeddf 2008 ac O.S. 2007/1388.

(2)

O.S. 2005/1971. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy’r gorchymyn dynodi hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.

(3)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mai 2014.

(5)

OJ Rhif L 212, 11.8.2015, t 7.