2016 Rhif 845 (Cy. 214)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi1.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd2.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Atodiad i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3 wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.