Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir o dan adran 86(1) o Ddeddf 1991 (aseswyr gorfodi ansawdd dŵr)(1);

ystyr “cyflenwr dŵr perthnasol” (“relevant water supplier”) yw—

(a)

cwmni a benodwyd yn ymgymerwr dŵr(2) y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru; neu

(b)

cwmni sy’n ddeiliaid trwydded cyflenwi dŵr o fewn ystyr adran 17A o Ddeddf 1991(3) (trwyddedu cyflenwyr dŵr) sy’n defnyddio system gyflenwi(4) ymgymerwr dŵr y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991.

(1)

Diwygiwyd adran 86(1) gan adrannau 56, 57 a 101 o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37) ac Atodlenni 7, 8 a 9 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 86 (ac eithrio is-adran (1A)) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (“Gorchymyn 1999”). Trosglwyddwyd y pŵer i benodi arolygwyr o dan adran 86 i’r Cynulliad i’r un graddau ag y mae’r pwerau, y dyletswyddau a’r darpariaethau eraill y mae adran 86 yn gymwys iddynt yn arferadwy gan y Cynulliad gan erthygl 2 o Orchymyn 1999. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddo, mae swyddogaethau a roddwyd i’r Cynulliad yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru.

(2)

Fel y’i diffinnir yn adran 6 o Ddeddf 1991.

(3)

Mewnosodwyd adran 17A gan adran 56 o Ddeddf Dŵr 2003, ac Atodlen 4 iddi. Diwygiwyd hi wedyn gan adran 1 o Ddeddf Dŵr 2014, ond nid yw pob un o’r diwygiadau wedi eu cychwyn.

(4)

Gweler adran 17B(5) o Ddeddf 1991 am ystyr “supply system” (“system gyflenwi”) ymgymerwr dŵr y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru. Mewnosodwyd adran 17B gan adran 56 o Ddeddf Dŵr 2003 ac Atodlen 4 iddi. Mae adrannau 2, 5 a 56 o Ddeddf Dŵr 2014 ac Atodlenni 5 a 7 iddi yn gwneud diwygiadau pellach i adran 17B sydd wedi eu cychwyn yn rhannol.