Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir o dan adran 86(1) o Ddeddf 1991 (aseswyr gorfodi ansawdd dŵr)2;
ystyr “cyflenwr dŵr perthnasol” (“relevant water supplier”) yw—
- a
cwmni a benodwyd yn ymgymerwr dŵr3 y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru; neu
- b
cwmni sy’n ddeiliaid trwydded cyflenwi dŵr o fewn ystyr adran 17A o Ddeddf 19914 (trwyddedu cyflenwyr dŵr) sy’n defnyddio system gyflenwi5 ymgymerwr dŵr y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;
- a
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991.