xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 843 (Cy. 213)

Y Diwydiant Dŵr, Cymru A Lloegr

Ffioedd A Thaliadau, Cymru A Lloegr

Gorchymyn Ansawdd a Chyflenwad Dŵr (Ffioedd) (Ymgymerwyr sy’n Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru) 2016

Gwnaed

9 Awst 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Awst 2016

Yn dod i rym

8 Medi 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 86ZA(2) a (4) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(1).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ansawdd a Chyflenwad Dŵr (Ffioedd) (Ymgymerwyr sy’n Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru) 2016 a daw i rym ar 8 Medi 2016.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir o dan adran 86(1) o Ddeddf 1991 (aseswyr gorfodi ansawdd dŵr)(2);

ystyr “cyflenwr dŵr perthnasol” (“relevant water supplier”) yw—

(a)

cwmni a benodwyd yn ymgymerwr dŵr(3) y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru; neu

(b)

cwmni sy’n ddeiliaid trwydded cyflenwi dŵr o fewn ystyr adran 17A o Ddeddf 1991(4) (trwyddedu cyflenwyr dŵr) sy’n defnyddio system gyflenwi(5) ymgymerwr dŵr y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991.

Ffioedd

3.—(1Caiff y Prif Arolygydd Dŵr Yfed(6) godi ffi ar gyflenwr dŵr perthnasol, a honno’n daladwy pan geir anfoneb ar ei chyfer, am arfer y swyddogaethau yng ngholofn 1 o’r tabl yn yr Atodlen gan arolygydd.

(2Pennir y ffi a godir o dan baragraff (1) yn unol â’r ffi a restrir mewn perthynas â’r swyddogaeth honno yng ngholofn 2 o’r tabl yn yr Atodlen.

(3Os arferir swyddogaeth a bennir ym mharagraffau (b), (c) neu (d) yng ngholofn 1 o’r tabl yn yr Atodlen gan fwy nag un arolygydd, rhaid agregu’r amser a dreuliwyd gan bob arolygydd at ddiben cyfrifo swm y ffi sy’n daladwy.

Dirymu ac arbedion

4.—(1Mae Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd Dŵr) (Ffioedd Arolygu) 2012(7) (“Gorchymyn 2012”) wedi ei ddirymu.

(2Mae Gorchymyn 2012 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag arfer swyddogaeth a restrir yng ngholofn 1 o’r tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwnnw gan arolygydd cyn 8 Medi 2016.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

9 Awst 2016

Erthygl 3

YR ATODLENY FFIOEDD AM ARFER SWYDDOGAETHAU O DAN ADRAN 86 O DDEDDF Y DIWYDIANT DŴR 1991

Tabl

1

Y Swyddogaeth

2

Y Ffi

(a)

Gwirio bod y trefniadau samplu a dadansoddi ar gyfer samplau dŵr a gesglir gan y cyflenwr dŵr perthnasol yn cydymffurfio â’r canlynol——

(i)

Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010(8);

(ii)

adran 68 o Ddeddf 1991 (dyletswyddau ymgymerwyr dŵr a thrwyddedeion chyflenwyr dŵr mewn cysylltiad ag ansawdd dŵr)(9); a

(iii)

unrhyw ofynion am ddata sampl y mae’n ofynnol eu darparu o dan adran 202 o Ddeddf 1991 (dyletswyddau ymgymerwyr i roi gwybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol)(10).

£55 am bob grŵp o 100 o ganlyniadau samplau dŵr a geir ac a wirir.
(b)

Gwirio—

(i)

bod trefniadau rheoli cyflenwad dŵr y cyflenwr dŵr perthnasol yn cydymffurfio â’r canlynol—

(aa)

Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010;

(bb)

adran 37 o Ddeddf 1991(11);

(cc)

adran 68 o Ddeddf 1991; a

(ii)

bod y cyflenwr dŵr perthnasol wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad gan Weinidogion Cymru i roi gwybodaeth am y trefniadau hyn o dan adran 202 o Ddeddf 1991.

£65 am bob awr gyflawn y mae arolygydd yn arfer y swyddogaeth.
(c)

Mewn perthynas â chyflenwr dŵr perthnasol—

(i)

ymchwilio i ddigwyddiad, achlysur, argyfwng neu fater arall pan fo unrhyw un o’r materion hynny yn dangos ei bod yn bosibl nad yw’r cyflenwr dŵr perthnasol wedi cydymffurfio â’r canlynol—

(aa)

Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010;

(bb)

adran 37 (dyletswydd gyffredinol i gynnal system gyflenwad dŵr etc.) o Ddeddf 1991;

(cc)

adran 68 o Ddeddf 1991; a

(ii)

gwirio bod hysbysiad wedi ei roi am ddigwyddiad, achlysur, argyfwng neu fater arall o’r fath gan y cyflenwr dŵr perthnasol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad gan Weinidogion Cymru i roi gwybodaeth o’r fath o dan adran 202 o Ddeddf 1991.

£65 am bob awr gyflawn y mae arolygydd yn arfer y swyddogaeth.
(d)

Mewn perthynas â chyflenwr dŵr perthnasol—

(i)

ymchwilio i gŵyn defnyddiwr ynghylch ansawdd neu ddigonolrwydd dŵr pan fo’r gŵyn yn dangos ei bod yn bosibl nad yw’r cyflenwr dŵr perthnasol wedi cydymffurfio â’r canlynol—

(aa)

Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010;

(bb)

adran 37 o Ddeddf 1991;

(cc)

adran 68 o Ddeddf 1991; a

(ii)

gwirio y cydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad gan Weinidogion Cymru i roi gwybodaeth am gwynion o’r fath o dan adran 202 o Ddeddf 1991.

£65 am bob awr gyflawn y mae arolygydd yn arfer y swyddogaeth.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu i ffioedd fod yn daladwy, ac yn nodi sut y mae symiau ffioedd o’r fath i gael eu pennu, am arfer swyddogaeth gan arolygydd a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 86 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (p. 56). Mae’r swyddogaethau yn ymwneud â’r ymchwiliadau a’r gofynion adrodd a ganlyn—

(a)gwirio trefniadau samplu a dadansoddi dŵr;

(b)gwirio trefniadau rheoli cyflenwad dŵr;

(c)ymchwilio i ddigwyddiad, achlysur, argyfwng neu fater arall sy’n deillio o ansawdd neu ddigonolrwydd dŵr;

(d)gwirio’r dull o ymdrin â chwynion gan ddefnyddwyr am ansawdd neu ddigonolrwydd dŵr a’r dull o adrodd ar y cwynion hynny; ac

(e)gwirio cydymffurfedd â gofynion i roi gwybodaeth i Weinidogion Cymru ynghylch y trefniadau a’r materion hyn neu i’w hysbysu amdanynt.

Mae erthygl 4 yn dirymu Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd Dŵr) (Ffioedd Arolygu) 2012 (O.S. 2012/3101 (Cy. 314)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol. O ganlyniad, nid oes unrhyw asesiad effaith wedi ei lunio ar gyfer y Gorchymyn hwn gan nad oes unrhyw newid i bolisïau, nac unrhyw effaith ar fusnesau na’r sector gwirfoddol yn cael ei rhagweld

(1)

1991 p. 56. Mewnosodwyd adran 86ZA gan adran 40 o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21).

(2)

Diwygiwyd adran 86(1) gan adrannau 56, 57 a 101 o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37) ac Atodlenni 7, 8 a 9 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 86 (ac eithrio is-adran (1A)) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (“Gorchymyn 1999”). Trosglwyddwyd y pŵer i benodi arolygwyr o dan adran 86 i’r Cynulliad i’r un graddau ag y mae’r pwerau, y dyletswyddau a’r darpariaethau eraill y mae adran 86 yn gymwys iddynt yn arferadwy gan y Cynulliad gan erthygl 2 o Orchymyn 1999. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddo, mae swyddogaethau a roddwyd i’r Cynulliad yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru.

(3)

Fel y’i diffinnir yn adran 6 o Ddeddf 1991.

(4)

Mewnosodwyd adran 17A gan adran 56 o Ddeddf Dŵr 2003, ac Atodlen 4 iddi. Diwygiwyd hi wedyn gan adran 1 o Ddeddf Dŵr 2014, ond nid yw pob un o’r diwygiadau wedi eu cychwyn.

(5)

Gweler adran 17B(5) o Ddeddf 1991 am ystyr “supply system” (“system gyflenwi”) ymgymerwr dŵr y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru. Mewnosodwyd adran 17B gan adran 56 o Ddeddf Dŵr 2003 ac Atodlen 4 iddi. Mae adrannau 2, 5 a 56 o Ddeddf Dŵr 2014 ac Atodlenni 5 a 7 iddi yn gwneud diwygiadau pellach i adran 17B sydd wedi eu cychwyn yn rhannol.

(6)

Gweler adran 86(1B) am ystyr “Chief Inspector of Drinking Water” (“Prif Arolygydd Dŵr Yfed”).

(9)

Diwygiwyd adran 68 gan Atodlen 8 i Ddeddf Dŵr 2003 ac Atodlen 7 i Ddeddf Dŵr 2014.

(10)

Diwygiwyd adran 202 gan: Atodlen 22 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25), Atodlen 8 i Ddeddf Dŵr 2003, O.S. 2013/755, Atodlen 23 i Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), ac Atodlen 7 i Ddeddf Dŵr 2014.

(11)

Diwygiwyd adran 37 gan adran 36 o Ddeddf Dŵr 2003.