Search Legislation

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”) sy’n nodi cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad y disgwylir i aelodau ac aelodau cyfetholedig o awdurdodau perthnasol yng Nghymru ei arddel o dan adran 50(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Mae adran 50(3) o’r Ddeddf honno yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio cod enghreifftiol sydd wedi ei ddyroddi.

Yr awdurdodau perthnasol yng Nghymru at ddibenion y Gorchymyn hwn yw: cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn diwygio’r paragraffau a ganlyn o’r cod enghreifftiol a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn 2008:

  • paragraff 1(1), drwy fewnosod diffiniad o “cofrestr o fuddiannau’r aelodau”;

  • paragraff 1(2), drwy fewnosod diffiniad o “swyddog priodol” a darparu eglurhad o ran cyfeiriadau at bwyllgorau safonau mewn perthynas â chyngor cymuned;

  • paragraff 3(a), drwy hepgor y cyfeiriad at awdurdodau’r heddlu;

  • paragraff 6(1)(c), drwy gael gwared ar y gofyniad i aelodau adrodd ar achosion posibl o ymddygiad sy’n groes i’w cod ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

  • paragraffau 11(4), 15(2), 16(2) a 17, drwy drosglwyddo rhai swyddogaethau o swyddogion monitro i’r swyddogion priodol o gynghorau cymuned;

  • paragraff 12(2)(b)(iv), i adlewyrchu’r darpariaethau newydd a geir yn Rhan 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mewn perthynas â lwfansau a thaliadau;

  • paragraff 14, drwy fewnosod is-baragraffau newydd (2A) a (2B) sy’n caniatáu i aelodau gyflwyno cyflwyniadau ysgrifenedig i gyfarfod sy’n ymdrin â mater y mae gan aelod fuddiant sy’n rhagfarnu mewn cysylltiad ag ef. Ni chaniateir cyflwyniadau ysgrifenedig ac eithrio yn yr amgylchiadau hynny lle y byddai caniatâd i aelod wneud cynrychioliadau llafar i gyfarfod mewn perthynas â mater, fel arall, ac os yw awdurdod yr aelod yn mabwysiadu gweithdrefn ar gyfer cyflwyno cyflwyniadau ysgrifenedig, rhaid i aelodau gydymffurfio â’r weithdrefn honno;

  • mae paragraff 15 yn cael ei ailddatgan. Mae’r ailddatganiad yn egluro y dylid cofrestru unrhyw fuddiant a ddatgelir, pa un a yw’r buddiant hwnnw wedi ei ddatgelu’n unol â pharagraffau 11 neu 15 o’r cod enghreifftiol, yng nghofrestr yr awdurdod o fuddiannau’r aelodau, drwy hysbysu’r swyddog monitro neu, mewn perthynas â chyngor cymuned, swyddog priodol o’r awdurdod hwnnw.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn yn hepgor paragraff 10(2)(b) o’r cod enghreifftiol a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn 2008. Mae hyn yn egluro nad yw aelod o awdurdod perthnasol i’w ystyried i gael buddiant personol mewn mater wrth wneud, neu gymryd rhan mewn, penderfyniadau ar ran yr awdurdod am y rheswm, yn syml, fod y busnes sy’n cael ei ystyried yn y cyfarfod yn effeithio ar ward yr aelod hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources