- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
O dan adran 108(2) o Ddeddf Addysg 2002 caiff Gweinidogion Cymru bennu, drwy Orchymyn, y meysydd dysgu ar gyfer y cyfnod sylfaen a’r deilliannau dymunol, y rhaglenni astudio a’r trefniadau asesu y maent yn ystyried eu bod yn briodol mewn perthynas â phob un o’r meysydd dysgu hynny.
Mae Rhan 3 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015 (“Gorchymyn 2015”) yn nodi’r trefniadau asesu y mae rhaid i addysgwr eu gweithredu mewn perthynas â phob disgybl ym mlwyddyn derbyn y cyfnod sylfaen. Mae Rhan 4 o Orchymyn 2015 yn nodi’r trefniadau asesu y mae rhaid i addysgwr eu gweithredu mewn perthynas â phob disgybl ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen. Mae Gorchymyn 2015 yn darparu bod rhaid i’r trefniadau asesu sylfaenol a diwedd cyfnod gael eu gweithredu yn unol â Llawlyfr Proffil y Cyfnod Sylfaen.
Mae erthygl 7 o Orchymyn 2015 yn darparu bod rhaid i’r asesiad sylfaenol gael ei gynnal o fewn 6 wythnos i’r tro cyntaf y bydd plentyn yn mynychu dosbarth derbyn fel disgybl mewn ysgol a gynhelir neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny os na ellir ei gynnal yn y cyfnod hwnnw am resymau eithriadol. Mae Gorchymyn 2015 yn diffinio dosbarth derbyn fel dosbarth lle y darperir addysg sy’n addas i blant 5 oed ac unrhyw blentyn o dan neu dros yr oedran hwnnw y mae’n hwylus i’w haddysgu gyda phlant 5 oed.
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r diffiniad o “llawlyfr proffil” yn erthygl 3 o Orchymyn 2015 er mwyn rhoi effaith gyfreithiol i’r fersiwn newydd o’r “llawlyfr proffil”. Mae’r “llawlyfr proffil” wedi ei ddiweddaru ac fe’i cyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Mehefin 2016.
Mae erthygl 3 o Orchymyn 2015 hefyd wedi ei diwygio er mwyn hepgor y diffiniad o ddosbarth derbyn a mewnosod diffiniad newydd sef “blwyddyn asesiad sylfaenol” a “sgiliau’r proffil cryno”. Mae’r diffiniad o “lefel cyrhaeddiad” hefyd wedi ei ddiwygio i gynnwys lefel newydd sef “uwchlaw deilliant 6”. Mae’r flwyddyn asesiad sylfaenol wedi ei diffinio i olygu’r flwyddyn ysgol pan fo’r disgybl yn cyrraedd 5 oed. Mae erthygl 7 o Orchymyn 2015 wedi ei diwygio fel bod rhaid i’r asesiad sylfaenol gael ei gynnal o fewn 6 wythnos i’r tro cyntaf y bydd y plentyn yn mynd i’r flwyddyn asesiad sylfaenol neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi hynny os na ellir ei gynnal yn y cyfnod hwnnw am resymau eithriadol. Felly, effaith y diwygiad yw mai’r cynharaf y caiff disgybl fod yn ddarostyngedig i asesiad sylfaenol yw 4 oed (erthygl 2(a), (b) a (d)).
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn mewnosod paragraff newydd (4) yn erthyglau 5 (asesiad sylfaenol) ac 8 (asesu diwedd cyfnod) er mwyn ei gwneud yn glir mai dim ond 1 asesiad sylfaenol a diwedd cyfnod sy’n ofynnol ar gyfer pob disgybl (erthygl 2(c) ac (e)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: