Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2016
Enwi a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2016.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Y diwrnod penodedig2.
5 Awst 2016 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn ddod i rym—
(a)
darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn Rhan 1 o’r Atodlen at ddiben gwneud rheoliadau; a
(b)
darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn Rhan 2 o’r Atodlen at ddiben dyroddi canllawiau.
YR ATODLENY darpariaethau yn y Ddeddf sy’n dod i rym ar 5 Awst 2016
RHAN 1Y darpariaethau yn y Ddeddf sy’n dod i rym at ddiben gwneud rheoliadau
1.
Adran 23 (darpariaethau atodol).
2.
Adran 29 (datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract).
3.
Adran 32(4) (yr hyn y mae datganiad ysgrifenedig i’w gynnwys).
4.
Adran 45(3) (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal).
5.
Adran 94 (penderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi).
6.
Adran 112 (tynnu’n ôl: pŵer i ragnodi terfynau amser).
7.
Adran 131 (tynnu’n ôl: y pŵer i ragnodi terfynau amser).
8.
Adran 203(5) a (6) (adolygiad y landlord o benderfyniad i roi hysbysiad).
9.
Adran 221 (gwaredu eiddo).
10.
Adran 236(3) a (4) (ffurf hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill).
11.
Paragraff 15(10) o Atodlen 2 (ymestyn y cyfnod perthnasol).
12.
Paragraff 17 o Atodlen 2 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen).
13.
Paragraff 10(2) o Atodlen 3 (llety myfyrwyr).
14.
Paragraff 15(3) a (4) o Atodlen 3 (llety nad yw’n llety cymdeithasol).
15.
Paragraff 17 o Atodlen 3 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen).
16.
Paragraff 4(7) a (8) o Atodlen 4 (adolygiad y landlord o benderfyniad i ymestyn cyfnod rhagarweiniol).
17.
Paragraff 1(6) o Atodlen 5 (cynlluniau blaendal).
18.
Paragraff 5(7) a (8) o Atodlen 7 (adolygiad y landlord o benderfyniad i ymestyn cyfnod prawf).
19.
Paragraff 15(2) o Atodlen 12 (amrywio).
20.
Paragraff 33 o Atodlen 12 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen).
RHAN 2Y darpariaethau yn y Ddeddf sy’n dod i rym at ddiben dyroddi canllawiau
21.
Adran 116(4) (gorchymyn sy’n arddodi contract safonol cyfnodol oherwydd ymddygiad gwaharddedig).
22.
Adran 146(1) (gwahardd dros dro: canllawiau).
Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Mae’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf ar 5 Awst 2016 at ddibenion gwneud rheoliadau a dyroddi canllawiau.
Mae erthygl 2(a) o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf, ond at ddiben gwneud rheoliadau yn unig.
Mae erthygl 2(b) o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf, ond at ddiben dyroddi canllawiau yn unig.