xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENY darpariaethau yn y Ddeddf sy’n dod i rym ar 5 Awst 2016

RHAN 1Y darpariaethau yn y Ddeddf sy’n dod i rym at ddiben gwneud rheoliadau

1.  Adran 23 (darpariaethau atodol).

2.  Adran 29 (datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract).

3.  Adran 32(4) (yr hyn y mae datganiad ysgrifenedig i’w gynnwys).

4.  Adran 45(3) (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal).

5.  Adran 94 (penderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi).

6.  Adran 112 (tynnu’n ôl: pŵer i ragnodi terfynau amser).

7.  Adran 131 (tynnu’n ôl: y pŵer i ragnodi terfynau amser).

8.  Adran 203(5) a (6) (adolygiad y landlord o benderfyniad i roi hysbysiad).

9.  Adran 221 (gwaredu eiddo).

10.  Adran 236(3) a (4) (ffurf hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill).

11.  Paragraff 15(10) o Atodlen 2 (ymestyn y cyfnod perthnasol).

12.  Paragraff 17 o Atodlen 2 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen).

13.  Paragraff 10(2) o Atodlen 3 (llety myfyrwyr).

14.  Paragraff 15(3) a (4) o Atodlen 3 (llety nad yw’n llety cymdeithasol).

15.  Paragraff 17 o Atodlen 3 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen).

16.  Paragraff 4(7) a (8) o Atodlen 4 (adolygiad y landlord o benderfyniad i ymestyn cyfnod rhagarweiniol).

17.  Paragraff 1(6) o Atodlen 5 (cynlluniau blaendal).

18.  Paragraff 5(7) a (8) o Atodlen 7 (adolygiad y landlord o benderfyniad i ymestyn cyfnod prawf).

19.  Paragraff 15(2) o Atodlen 12 (amrywio).

20.  Paragraff 33 o Atodlen 12 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen).