NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Mae’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf ar 5 Awst 2016 at ddibenion gwneud rheoliadau a dyroddi canllawiau.
Mae erthygl 2(a) o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf, ond at ddiben gwneud rheoliadau yn unig.
Mae erthygl 2(b) o’r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf, ond at ddiben dyroddi canllawiau yn unig.