1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud
2. 5 Awst 2016 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn ddod i rym—
(a)darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn Rhan 1 o’r Atodlen at ddiben gwneud rheoliadau; a
(b)darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn Rhan 2 o’r Atodlen at ddiben dyroddi canllawiau.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 2 mewn grym ar y dyddiad gwneud
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru