NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1517 (Cy. 176)) (“Rheoliadau 2015”).

Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“Deddf 1993”) yn darparu ei bod yn drosedd gollwng mwg o simnai adeilad, neu simnai sy’n gwasanaethu ffwrnais boeler sefydlog neu beiriannau diwydiannol, os yw’r simnai honno mewn ardal rheoli mwg. Er hynny, yn rhinwedd adran 20(3) mae’n amddiffyniad os gellir profi nad drwy ddefnyddio unrhyw danwydd ac eithrio tanwydd awdurdodedig yr achoswyd y gollyngiad honedig.

Yn rhinwedd adran 20(6), ystyr “authorised fuel” (“tanwydd awdurdodedig”) yw tanwydd y datganwyd ei fod yn danwydd awdurdodedig drwy reoliadau. Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o’r fath bellach yn arferadwy o ran Cymru gan Weinidogion Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu pob tanwydd sydd wedi ei awdurdodi ar hyn o bryd i’w ddefnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru at ddibenion adran 20 o Ddeddf 1993.

Mae’r holl danwyddau a restrwyd yn yr Atodlen i Reoliadau 2015 yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn parhau i fod yn danwyddau awdurdodedig, ac eithrio y gwneir newid i fanyleb un tanwydd (brics glo Ecoal (a farchnetir hefyd fel brics glo Homefire Ecoal a Supertherm 30)).

Mae pedwar tanwydd ychwanegol wedi eu hawdurdodi am y tro cyntaf (ALDI Winter Flame Smokeless Fuel, Cosyglo Smokeless, CPL Restaurant Grade Charcoal a brics glo Firegold).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.