2016 Rhif 811 (Cy. 201)
Aer Glân, Cymru
Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Dosbarthau Esempt ar Leoedd Tân) (Cymru) 2016
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 21(5) o Ddeddf Aer Glân 19931.
Maent wedi eu bodloni y gellir defnyddio’r lleoedd tân a esemptir gan y Gorchymyn hwn i losgi tanwydd nad yw’n danwydd awdurdodedig heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.