Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2016
Enwi, cymhwyso a dehongli1.
(1)
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2016.
(2)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Yn y Gorchymyn hwn—
(a)
ystyr “Deddf 2010” yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010; ac
(b)
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 20162.
Daw’r darpariaethau canlynol yn Neddf 2010, i’r graddau nad ydynt wedi eu cychwyn eisoes, i rym ar 1 Ebrill 2016—
(a)
adran 33 (cronfeydd dŵr);
(b)
paragraffau 2 i 11, 13 a 14 o Atodlen 4 (cronfeydd dŵr);
(c)
paragraff 12 a pharagraffau 15 i 19 o Atodlen 4 ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn (gweler erthygl 3);
(d)
paragraffau 20 i 29, 33 i 36 a 41 o Atodlen 4.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar y diwrnod cymwys o ran cyforgronfeydd dŵr mawr cyn-gychwyn3.
(1)
Daw paragraff 12 a pharagraffau 15 i 19 o Atodlen 4 i Ddeddf 2010 i rym ar y diwrnod cymwys mewn perthynas ag unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn.
(2)
(3)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), y diwrnod cymwys mewn perthynas ag unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn yw pa bynnag ddyddiad yw’r cynharaf o’r canlynol—
(a)
28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn dynodi’r gronfa ddŵr honno yn rhinwedd hysbysiad o dan adran 2B(1) o Ddeddf 1975; a
(b)
1 Ebrill 2017.
(4)
Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo cyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn—
(a)
wedi ei dynodi yn rhinwedd hysbysiad o dan adran 2B(1) o Ddeddf 1975; a
(b)
(5)
Mewn unrhyw achos pan fo paragraff (4) yn gymwys, y diwrnod cymwys yw pa bynnag ddyddiad yw’r cynharaf o’r canlynol—
(a)
y dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu’r apêl yn rhinwedd rheoliad 4(2) o Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apelau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016; a
(b)
1 Ebrill 2017.
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (“Deddf 2010”) o ran Cymru.
Mae erthygl 2 yn pennu darpariaethau Deddf 2010 a ddaw i rym (i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cychwyn) ar 1 Ebrill 2016 o ran Cymru yn unig. Mae’r darpariaethau hyn yn diwygio Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (p. 23) i gyflwyno fframwaith cyfreithiol newydd mewn perthynas â diogelwch cyforgronfeydd dŵr mawr.
Mae erthygl 3 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed mewn perthynas â’r diwygiadau i Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.
Dygwyd darpariaethau canlynol Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y ddarpariaeth yn y Ddeddf | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adran 1 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | |
Adran 1 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 2 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | |
Adran 2 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | |
Adran 3 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 4 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | |
Adran 4 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 5 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 6 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | |
Adran 6 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | |
Adrannau 7 i 10 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 11 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Adran 11 (o ran Cymru yn unig) | 1 Tachwedd 2011 | |
Adran 12 | 1 Tachwedd 2011 | |
Adran 13 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 14 | 6 Ebrill 2011 | |
Adran 15 (yn rhannol) | 18 Ionawr 2011 | |
Adran 15 (y gweddill, o ran Cymru yn unig) | 6 Ebrill 2011 | |
Adran 16 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 17 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 17 (y gweddill) | 1 Ebrill 2011 | |
Adran 18 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Adran 18 (o ran Cymru yn unig) | 1 Tachwedd 2011 | |
Adran 19 | 6 Ebrill 2011 | |
Adran 20 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 21 | 6 Ebrill 2011 | |
Adran 22 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 22 (y gweddill) | 1 Ebrill 2011 | |
Adran 23 | 1 Ebrill 2011 | |
Adran 24 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 25 | 1 Ebrill 2011 | |
Adran 26 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 27 | 1 Hydref 2011 | |
Adrannau 28 a 29 | 1 Hydref 2010 | |
Adran 30 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2011 | |
Adran 30 (y gweddill) | 1 Awst 2012 | |
Adran 31 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
1 Ebrill 2011 | ||
6 Ebrill 2011 | ||
19 Gorffennaf 2011 | ||
1 Hydref 2011 | ||
6 Ebrill 2012 | ||
Adran 33 (yn rhannol) | 1 Hydref 2011 | |
Adran 33 (yn rhannol o ran Lloegr) | 30 Gorffennaf 2013 | |
Adran 34 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
1 Ebrill 2011 | ||
Adran 35 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 36 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | |
Adran 36 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 37 | 6 Ebrill 2011 | |
Adrannau 38 a 39 (yn rhannol) | 18 Ionawr 2011 | |
Adrannau 38 a 39 (y gweddill) | 1 Rhagfyr 2011 | |
Adrannau 40 a 41 | 1 Hydref 2010 | |
Adrannau 42 a 43 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 42 (y gweddill o ran Cymru yn unig). | 1 Hydref 2010 | |
Adran 44 | 1 Hydref 2011 | |
Adran 45 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
Adran 45 (y gweddill, o ran Cymru yn unig) | 1 Ionawr 2015 | |
Adrannau 46 a 47 | 1 Hydref 2010 | |
Yn Atodlen 1— | ||
Paragraffau 15 a 16 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2011 | |
Paragraff 17 | 6 Ebrill 2011 | |
Atodlen 1 (y gweddill) | 1 Awst 2012 | |
Yn Atodlen 2— | ||
Paragraffau 1 i 24 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Paragraffau 1 i 24 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | |
Paragraff 25 | 1 Hydref 2010 | |
Paragraffau 26 a 27 | 6 Ebrill 2012 | |
Paragraff 28 | 1 Hydref 2010 | |
Paragraffau 29 a 30 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Paragraffau 29 a 30 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | |
Paragraffau 31, 32(1) i (3) a (5) i (7), 33 a 34 | 6 Ebrill 2012 | |
Paragraffau 35 a 36 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Paragraffau 35 a 36 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | |
Paragraff 37 | 6 Ebrill 2011 | |
Paragraffau 38 a 39 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Paragraffau 38 a 39 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | |
Paragraffau 40, 41, 43 a 44 | 1 Ebrill 2011 | |
Paragraffau 45 i 47 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Paragraffau 45 i 47 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | |
Paragraff 48 | 1 Ebrill 2011 | |
Paragraff 49 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | |
Paragraff 49 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | |
Paragraffau 50 i 53 | 1 Ebrill 2011 | |
Paragraff 54 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
Paragraff 54 (y gweddill) | 6 Ebrill 2011 | |
Yn Atodlen 4— | ||
Paragraff 1 | 1 Hydref 2011 | |
Paragraffau 2, 4, 7, 10, 12, 22, 25, 27, 30, 31, 32, 33 a 37 -(yn rhannol) | 1 Hydref 2011 | |
Paragraffau 2, 4, 7, 10, 12, 22, 25, 27 a 33 (y gweddill o ran Lloegr yn unig). | 30 Gorffennaf 2013 | |
Paragraffau 3, 5, 6, 8, 9, 11, 13 i 21, 23, 24, 26, 28, 29, 34 i 36 a 41 (o ran Lloegr yn unig). | 30 Gorffennaf 2013 | |
Paragraffau 38 i 40, 42 a 43 | 1 Hydref 2011 | |
Yn Atodlen 5— | ||
Paragraffau 1 a 2 | 1 Ebrill 2011 | |
Paragraff 3 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |
Paragraff 4 | 1 Ebrill 2011 | |
Paragraffau 5 a 6 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | |