NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (“Deddf 2010”) o ran Cymru.

Mae erthygl 2 yn pennu darpariaethau Deddf 2010 a ddaw i rym (i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cychwyn) ar 1 Ebrill 2016 o ran Cymru yn unig. Mae’r darpariaethau hyn yn diwygio Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (p. 23) i gyflwyno fframwaith cyfreithiol newydd mewn perthynas â diogelwch cyforgronfeydd dŵr mawr.

Mae erthygl 3 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed mewn perthynas â’r diwygiadau i Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.