Offerynnau Statudol Cymru
Rheoli Perygl Llifogydd, Cymru
Gwnaed
26 Ionawr 2016
Yn dod i rym
1 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 48(2) a 49(3)(i) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2016.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a)ystyr “Deddf 2010” yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010; ac
(b)ystyr “Deddf 1975” yw Deddf Cronfeydd Dŵr 1975(2).
2. Daw’r darpariaethau canlynol yn Neddf 2010, i’r graddau nad ydynt wedi eu cychwyn eisoes, i rym ar 1 Ebrill 2016—
(a)adran 33 (cronfeydd dŵr);
(b)paragraffau 2 i 11, 13 a 14 o Atodlen 4 (cronfeydd dŵr);
(c)paragraff 12 a pharagraffau 15 i 19 o Atodlen 4 ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn (gweler erthygl 3);
(d)paragraffau 20 i 29, 33 i 36 a 41 o Atodlen 4.
3.—(1) Daw paragraff 12 a pharagraffau 15 i 19 o Atodlen 4 i Ddeddf 2010 i rym ar y diwrnod cymwys mewn perthynas ag unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn.
(2) Mae cronfa ddŵr yn gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn os oedd wedi ei chofrestru fel cyforgronfa ddŵr fawr o dan Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) 1985(3) yn union cyn 1 Ebrill 2016.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), y diwrnod cymwys mewn perthynas ag unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn yw pa bynnag ddyddiad yw’r cynharaf o’r canlynol—
(a)28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn dynodi’r gronfa ddŵr honno yn rhinwedd hysbysiad o dan adran 2B(1) o Ddeddf 1975; a
(b)1 Ebrill 2017.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo cyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn—
(a)wedi ei dynodi yn rhinwedd hysbysiad o dan adran 2B(1) o Ddeddf 1975; a
(b)mae ymgymerwr y gronfa ddŵr yn apelio yn erbyn y dynodiad o dan Reoliad 4(1) o Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apelau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016(4).
(5) Mewn unrhyw achos pan fo paragraff (4) yn gymwys, y diwrnod cymwys yw pa bynnag ddyddiad yw’r cynharaf o’r canlynol—
(a)y dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu’r apêl yn rhinwedd rheoliad 4(2) o Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apelau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016; a
(b)1 Ebrill 2017.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (“Deddf 2010”) o ran Cymru.
Mae erthygl 2 yn pennu darpariaethau Deddf 2010 a ddaw i rym (i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cychwyn) ar 1 Ebrill 2016 o ran Cymru yn unig. Mae’r darpariaethau hyn yn diwygio Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (p. 23) i gyflwyno fframwaith cyfreithiol newydd mewn perthynas â diogelwch cyforgronfeydd dŵr mawr.
Mae erthygl 3 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed mewn perthynas â’r diwygiadau i Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dygwyd darpariaethau canlynol Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
| Y ddarpariaeth yn y Ddeddf | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
| Adran 1 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 1 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 2 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 2 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 3 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 4 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 4 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 5 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 6 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 6 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adrannau 7 i 10 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 11 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
| Adran 11 (o ran Cymru yn unig) | 1 Tachwedd 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
| Adran 12 | 1 Tachwedd 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
| Adran 13 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 14 | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Adran 15 (yn rhannol) | 18 Ionawr 2011 | 2011/95 (C. 4) |
| Adran 15 (y gweddill, o ran Cymru yn unig) | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Adran 16 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 17 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 17 (y gweddill) | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Adran 18 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
| Adran 18 (o ran Cymru yn unig) | 1 Tachwedd 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
| Adran 19 | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Adran 20 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 21 | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Adran 22 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 22 (y gweddill) | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Adran 23 | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Adran 24 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 25 | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Adran 26 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 27 | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
| Adrannau 28 a 29 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 30 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Adran 30 (y gweddill) | 1 Awst 2012 | 2012/2000 (C. 79) |
| Adran 31 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) | |
| 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) | |
| 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) | |
| 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) | |
| 6 Ebrill 2012 | ||
| Adran 33 (yn rhannol) | 1 Hydref 2011 | |
| Adran 33 (yn rhannol o ran Lloegr) | 30 Gorffennaf 2013 | 2013/1590 (C. 64) |
| Adran 34 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) | |
| Adran 35 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 36 (yn rhannol) | 1 Medi 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 36 (y gweddill) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 37 | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Adrannau 38 a 39 (yn rhannol) | 18 Ionawr 2011 | 2011/95 (C. 4) |
| Adrannau 38 a 39 (y gweddill) | 1 Rhagfyr 2011 | 2011/2856 (C. 101) |
| Adrannau 40 a 41 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adrannau 42 a 43 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 42 (y gweddill o ran Cymru yn unig). | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Adran 44 | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
| Adran 45 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
Adran 45 (y gweddill, o ran Cymru yn unig) | 1 Ionawr 2015 | 2014/3155> (W. 317) (C. 137) |
| Adrannau 46 a 47 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Yn Atodlen 1— | ||
| Paragraffau 15 a 16 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Paragraff 17 | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Atodlen 1 (y gweddill) | 1 Awst 2012 | 2012/2000 (C. 79) |
| Yn Atodlen 2— | ||
| Paragraffau 1 i 24 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
| Paragraffau 1 i 24 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
| Paragraff 25 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Paragraffau 26 a 27 | 6 Ebrill 2012 | 2012/879 (C. 25) |
| Paragraff 28 | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Paragraffau 29 a 30 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
| Paragraffau 29 a 30 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
| Paragraffau 31, 32(1) i (3) a (5) i (7), 33 a 34 | 6 Ebrill 2012 | 2012/879 (C. 25) |
| Paragraffau 35 a 36 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
| Paragraffau 35 a 36 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
| Paragraff 37 | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Paragraffau 38 a 39 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
| Paragraffau 38 a 39 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
| Paragraffau 40, 41, 43 a 44 | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Paragraffau 45 i 47 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
| Paragraffau 45 i 47 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
| Paragraff 48 | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Paragraff 49 (o ran Lloegr yn unig) | 19 Gorffennaf 2011 | 2011/1770 (C. 7) |
| Paragraff 49 (o ran Cymru yn unig) | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
| Paragraffau 50 i 53 | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Paragraff 54 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Paragraff 54 (y gweddill) | 6 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Yn Atodlen 4— | ||
| Paragraff 1 | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
| Paragraffau 2, 4, 7, 10, 12, 22, 25, 27, 30, 31, 32, 33 a 37 -(yn rhannol) | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
| Paragraffau 2, 4, 7, 10, 12, 22, 25, 27 a 33 (y gweddill o ran Lloegr yn unig). | 30 Gorffennaf 2013 | 2011/2204 (C. 80). |
| Paragraffau 3, 5, 6, 8, 9, 11, 13 i 21, 23, 24, 26, 28, 29, 34 i 36 a 41 (o ran Lloegr yn unig). | 30 Gorffennaf 2013 | 2013/1590 (C. 64) |
| Paragraffau 38 i 40, 42 a 43 | 1 Hydref 2011 | 2011/2204 (C. 80) |
| Yn Atodlen 5— | ||
| Paragraffau 1 a 2 | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Paragraff 3 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |
| Paragraff 4 | 1 Ebrill 2011 | 2011/694 (C. 25) |
| Paragraffau 5 a 6 (yn rhannol) | 1 Hydref 2010 | 2010/2169 (C. 108) |