- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Daw paragraff 12 a pharagraffau 15 i 19 o Atodlen 4 i Ddeddf 2010 i rym ar y diwrnod cymwys mewn perthynas ag unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn.
(2) Mae cronfa ddŵr yn gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn os oedd wedi ei chofrestru fel cyforgronfa ddŵr fawr o dan Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) 1985(1) yn union cyn 1 Ebrill 2016.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), y diwrnod cymwys mewn perthynas ag unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn yw pa bynnag ddyddiad yw’r cynharaf o’r canlynol—
(a)28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn dynodi’r gronfa ddŵr honno yn rhinwedd hysbysiad o dan adran 2B(1) o Ddeddf 1975; a
(b)1 Ebrill 2017.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo cyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn—
(a)wedi ei dynodi yn rhinwedd hysbysiad o dan adran 2B(1) o Ddeddf 1975; a
(b)mae ymgymerwr y gronfa ddŵr yn apelio yn erbyn y dynodiad o dan Reoliad 4(1) o Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apelau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016(2).
(5) Mewn unrhyw achos pan fo paragraff (4) yn gymwys, y diwrnod cymwys yw pa bynnag ddyddiad yw’r cynharaf o’r canlynol—
(a)y dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu’r apêl yn rhinwedd rheoliad 4(2) o Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apelau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016; a
(b)1 Ebrill 2017.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: