Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apeliadau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “cronfa ddŵr risg uchel” (“high risk reservoir”) yr un ystyr ag a roddir i “high-risk reservoir” yn adran 2C o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975;
mae i “cyforgronfa ddŵr fawr” (“large raised reservoir”) yr un ystyr ag a roddir i “large raised reservoir” yn adran A1 o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975;
ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru
ystyr “Deddf 1975” (“the 1975 Act”) yw Deddf Cronfeydd Dŵr 1975;
mae i “ymgymerwr” (“undertaker”) yr un ystyr ag a roddir i “undertakers” yn adran 1(4) o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.
Pethau penodedig ddim i’w drin fel cyforgronfeydd dŵr mawr3
1
Yn unol ag adran A1(8) o Ddeddf 1975, nid yw’r pethau a ganlyn i’w drin fel cyforgronfeydd dŵr mawr at ddibenion y Ddeddf honno—
a
lagŵn mwynfa sy’n dip o fewn ystyr Rheoliadau Mwynfeydd 20142;
b
lagŵn chwarel sy’n—
i
dip o fewn ystyr Rheoliadau Chwareli 19993; neu
ii
dip segur o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Mwynfeydd a Chwareli (Tipiau) 19694;
c
camlas neu fordwyaeth mewndirol arall;
d
strwythurau a ddyluniwyd ac a adeiladwyd â’r prif ddiben o amddiffyn tir rhag y môr; neu
e
arglawdd ffordd neu arglawdd rheilffordd ac eithrio —
i
pan mae’r draen neu’r draeniau sy’n rhedeg trwyddo wedi ei flocio neu eu blocio mewn ffordd artiffisial at ddibenion defnyddio ardaloedd i fyny’r afon i storio dŵr; neu
ii
pan mae’r draen neu’r draeniau sy’n rhedeg trwyddo wedi ei adeiladu neu eu hadeiladu fel bod dŵr yn cael ei storio yn uwch na lefel naturiol y tir.
2
Nid yw paragraff (1)(c) yn cynnwys cronfa ddŵr sy’n ffurfio rhan o gamlas neu fordwyaeth fewndirol arall.
Hawl i apelio dynodiad cyforgronfa ddŵr fawr yn gronfa ddŵr risg uchel4
1
Caiff ymgymerwr sydd wedi ei gyflwyno ag hysbysiad o dan adran 2B(1) o Ddeddf 19755 apelio yn erbyn y dynodiad ar unrhyw sail i Weinidogion Cymru.
2
Wrth benderfynu ar apêl o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru naill ai gadarnhau neu ganslo’r dynodiad.
Hawl i apelio yn erbyn gofyniad mewn hysbysiad5
1
Caiff ymgymerwr y mae hysbysiad gorfodi wedi ei gyflwyno iddo apelio i Weinidogion Cymru ar unrhyw sail yn erbyn gofyniad yn yr hysbysiad i benodi peiriannydd neu i roi effaith i argymhelliad peiriannydd.
2
Wrth benderfynu ar apêl o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—
a
cadarnhau’r gofyniad;
b
addasu’r gofyniad; neu
c
penderfynu rhoi’r gorau i’r gofyniad cael effaith.
3
Pan fo apêl yn cael ei gwneud, caiff y gofyniad ei atal tra bo’r apêl yn cael ei phenderfynu.
4
Yn y rheoliad hwn ystyr “hysbysiad gorfodi” yw hysbysiad a roddir o dan adran 8(1), 8(3A)6, 9(7), 10(7), 12(4), 13(5) neu 14(4) o Ddeddf 1975.
Apeliadau6
1
Rhaid i apêl o dan reoliad 4 neu 5—
a
cael ei gwneud yn ysgrifenedig;
b
datgan seiliau’r apêl; ac
c
dod i law Gweinidogion Cymru ddim mwy na 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyflwynir hysbysiad gorfodi, neu hysbysiad a gyflwynir o dan adran 2B o’r Ddeddf, i’r ymgymerwr.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio’r apêl at berson penodedig iddo ei hystyried a phenderfynu arni.
3
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael apêl rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r apêl a’r wybodaeth ategol at CANC.
Trafodion gerbron y person penodedig7
1
Os yw’r person penodedig wedi ei fodloni bod apêl wedi ei chyflwyno yn unol â rheoliad 6 rhaid i’r person penodedig benderfynu ar y cais.
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (10), mae’r person penodedig i benderfynu ar y weithdrefn ar gyfer penderfynu ar apêl.
3
Cyn penderfynu ar apêl rhaid i’r person penodedig—
a
caniatáu 21 o ddiwrnodau i’r apelydd a CANC gyflwyno sylwadau a dogfennau ategol mewn perthynas â’r apêl;
b
cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol anfon copi i CANC o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan yr apelydd o dan is-baragraff (a);
c
cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol anfon copi i’r apelydd o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan CANC o dan is-baragraff (a);
d
caniatáu 14 o ddiwrnodau pellach i’r apelydd a CANC gyflwyno sylwadau ar sylwadau a dogfennau ategol y naill a’r llall i’r person penodedig.
4
Caiff y person penodedig ofyn am wybodaeth bellach gan yr apelydd neu CANC ar unrhyw adeg.
5
Ar ôl ystyried y sylwadau a’r dogfennau a gyflwynwyd o dan baragraff (3) rhaid i’r person penodedig benderfynu a fydd yr apêl yn cael ei chynnal drwy sylwadau ysgrifenedig neu drwy wrandawiad a rhaid hysbysu’r partïon am y penderfyniad.
6
Os yw apêl i’w phenderfynu drwy wrandawiad rhaid i’r person penodedig bennu’r dyddiad a rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau o rybudd i’r apelydd ac i CANC.
7
Os yw’r naill barti neu’r llall yn bwriadu galw neu roi tystiolaeth gan dyst yn y gwrandawiad rhaid iddynt, o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad, anfon proflen o’r dystiolaeth y bwriedir ei rhoi at y person penodedig.
8
Rhaid i’r person penodedig sicrhau bod gan y ddau barti gopïau o’r holl broflenni tystiolaeth a gyflwynwyd o dan baragraff (7).
9
Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person penodedig ar unrhyw adeg cyn i’r person penodedig benderfynu arni.
10
Mae’r holl bartïon i’r apêl i ddwyn eu costau eu hunain.
Effaith penderfyniad gan y person penodedig8
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo gan benderfyniad gan y person penodedig.
Arolygiad cyfnodol o gronfeydd dŵr risg uchel9
1
At ddibenion adran 10(2) o Ddeddf 1975, mae cronfa ddŵr risg uchel i’w harolygu ar bob un o’r adegau a ganlyn—
a
cyn diwedd y cyfnod o chwe mis gan ddechrau ar ddyddiad cwblhau unrhyw addasiad i’r gronfa ddŵr—
i
nad yw’n cynyddu neu’n lleihau ei chynhwysedd;
ii
y gallai’r fath addasiad effeithio ar ei diogelwch; a
iii
sydd heb ei ddylunio na’i oruchwylio gan beiriannydd sifil cymwysedig;
b
ar unrhyw adeg a argymhellir gan y peiriannydd sy’n goruchwylio o dan adran 12(3) o Ddeddf 1975;
c
ar unrhyw adeg a argymhellir yn adroddiad y peiriannydd sy’n arolygu a luniwyd o dan adran 10(3) o Ddeddf 1975;
d
o fewn blwyddyn i’w dynodi o dan adran 2B o Ddeddf 1975;
e
yn ddim hwyrach na 10 mlynedd ar ôl dyddiad yr arolygiad diweddaraf a wnaed o dan adran 10 o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac unwaith bob 10 mlynedd wedi hynny.
2
Nid yw paragraff (1)(d) yn gymwys i unrhyw gronfa ddŵr a gofrestrwyd fel cyforgronfa ddŵr fawr yn flaenorol o dan Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) 19857.
3
Nid yw’r gofyniad i arolygu cronfa ddŵr risg uchel o dan adran 10(2) o Ddeddf 1975 wedi ei gyflawni pan bod yr arolygiad wedi ei gyfyngu i ran o’r gronfa ddŵr.
4
Nid yw paragraff (3) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo peiriannydd sy’n arolygu sy’n gweithredu o dan adran 12(3) o Ddeddf 1975 neu beiriannydd sy’n goruchwylio sy’n gweithredu o dan adran 10(3) o’r Ddeddf honno yn argymell bod arolygiad yn cael ei gyfyngu i ran o’r gronfa ddŵr.