xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
5 Gorffennaf 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 188 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
2.—(1) Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym at y diben a bennir ym mharagraff (2) yw 11 Gorffennaf 2016—
(a)adran 67 (Gofal Cymdeithasol Cymru);
(b)adran 68 (amcanion GCC);
(c)adran 73(1) a (2) (rheolau: cyffredinol);
(d)adran 75 (ymgynghori cyn gwneud rheolau etc.).
(2) Mae’r darpariaethau ym mharagraff (1) wedi eu dwyn i rym i’r graddau sy’n ofynnol, ac at ddiben galluogi Gofal Cymdeithasol Cymru i gyflawni ei ddyletswydd i ymgynghori o dan adran 75(2) o’r Ddeddf yn effeithiol.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
5 Gorffennaf 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r ail Orchymyn Cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Mae’n cychwyn darpariaethau penodol yn y Ddeddf at ddiben penodol ar 11 Gorffennaf 2016.
Mae adran 75(1) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Ofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”) gydymffurfio â gofynion penodol yn is-adran (2) cyn gwneud rheolau, cyhoeddi cod ymarfer a chyhoeddi canllawiau.
Mae erthygl 2 yn cychwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf ond dim ond at ddiben galluogi GCC i gydymffurfio â’r gofynion yn adran 75(2) o’r Ddeddf. Y darpariaethau hynny yw—
(a)adran 67 sy’n ailenwi Cyngor Gofal Cymru yn Ofal Cymdeithasol Cymru;
(b)adran 68 sy’n nodi prif amcan GCC wrth gyflawni ei swyddogaethau;
(c)adran 73(1) a (2) sy’n sefydlu bod rhaid i reolau gael eu gwneud yn ysgrifenedig a bod rhaid i’r offeryn sy’n cynnwys y rheolau bennu’r ddarpariaeth y gwneir y rheolau odani;
(d)adran 75 sy’n gosod dyletswydd ar GCC i gydymffurfio â gofynion ymgynghori penodol cyn gwneud rheolau.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf hon wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Paragraff 59 o Atodlen 3 | 6 Ebrill 2016 | 2016/467 (Cy. 149) (C. 28) |
Paragraffau 60 i 65 o Atodlen 3 | 6 Ebrill 2016 | 2016/467 (Cy. 149) (C. 28) |