Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio offerynnau statudol penodol yn ymwneud â gwastraff, sy’n cyfeirio at Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3) (“y Gyfarwyddeb Wastraff”).
Mae angen y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1127 dyddiedig 10 Gorffennaf 2015 sy’n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar Wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol (OJ Rhif L 184, 11.7.2015, t.13).
Mae rheoliadau 2, 3 a 6 yn diwygio Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1490 (Cy. 155)), Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1806 (Cy. 138)) a Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1014 (Cy. 152)) yn y drefn honno, drwy fynegi’r cyfeiriad at y Gyfarwyddeb Wastraff ym mhob un o’r rheoliadau hynny fel cyfeiriad at y Gyfarwyddeb honno fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1217.
Mae Rheoliadau 4 a 5 yn diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 (O.S. 2010/675) (“y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol”) a Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (O.S. 2011/988) (“y Rheoliadau Gwastraff”) yn y drefn honno. Er mwyn sicrhau cysondeb rhwng y diwygiadau a wneir i’r offerynnau hynny gan y Rheoliadau hyn, a diwygiadau cyfatebol a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, mae’r un ddarpariaeth yn union wedi ei rhoi yn lle’r cyfeiriad at y Gyfarwyddeb Wastraff yn y rheoliadau diwygiedig. Nid yw’r ddarpariaeth a amnewidir yn cyfeirio’n benodol at Gyfarwyddeb ddiwygio’r Comisiwn (UE) 2015/1227, ond effaith adran 20A o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) (“Deddf 1978”) yw pan fo Deddf sydd wedi ei phasio ar ôl dyddiad cychwyn yr adran honno yn cyfeirio at offeryn yr Undeb Ewropeaidd, fod y cyfeiriad, oni amlygir bwriad i’r gwrthwyneb, yn gyfeiriad at yr offeryn fel y’i diwygiwyd ar y dyddiad y daw’r Ddeddf honno i rym. Mae adran 23(1) o Ddeddf 1978 yn cymhwyso’r egwyddor honno i is-ddeddfwriaeth. O ganlyniad, effaith yr amnewidiadau a wneir gan reoliadau 4 a 5 yw bod cyfeiriadau at y Gyfarwyddeb Wastraff yn y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol a’r Rheoliadau Gwastraff yn dod yn gyfeiriadau at y Gyfarwyddeb honno fel y’i diwygiwyd ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol, o ran Cymru, o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.