(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 (“Gorchymyn 2011”), sy’n cynnwys cyfeiriad at Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 19 Tachwedd 2008 ar wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol (OJ L 312, 22.11.2008, t. 3.) (“y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff”).
Mae angen y diwygiad a wneir gan erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn er mwyn gweithredu diwygiadau i’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff a wneir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1127 dyddiedig 10 Gorffennaf 2015 sy’n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff a diddymu Cyfarwyddebau penodol.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r cyfeiriad at y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yng Ngorchymyn 2011.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol, o ran Cymru, o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.