Pwerau person awdurdodedig9
1
Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd rheoliad 8—
a
arolygu’r fangre ac unrhyw ddogfen, cofnod neu gyfarpar sydd ynddi ac y byddai’n rhesymol i’r person hwnnw gredu ei bod, neu ei fod, yn ymwneud â’r gweithrediad;
b
ei gwneud yn ofynnol fod y buddiolwr, neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i’r buddiolwr, yn dangos unrhyw ddogfen neu gofnod, neu’n darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol, sydd ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ac sy’n ymwneud â’r gweithrediad;
c
pan gedwir unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth y cyfeirir ati neu ato yn is-baragraff (b) drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at ac arolygu unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â’r ddogfen neu’r wybodaeth honno neu â’r cofnod hwnnw;
d
ei gwneud yn ofynnol ddangos i’r person awdurdodedig gopïau o unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth, neu ddetholion ohonynt, sy’n ymwneud â’r gweithrediad;
e
cymryd, a chadw am gyfnod rhesymol, unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth sy’n ymwneud â’r gweithrediad pan fo gan y person awdurdodedig reswm dros gredu y gallai fod angen y ddogfen neu’r wybodaeth honno, neu’r cofnod hwnnw, fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn, a phan gedwir unrhyw ddogfen o’r fath drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol ei chynhyrchu mewn ffurf sydd yn caniatáu ei chludo ymaith ac yn ei gwneud yn weladwy a darllenadwy.
2
Rhaid i fuddiolwr, neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant buddiolwr, roi pob cymorth rhesymol i berson awdurdodedig mewn perthynas â’r materion a grybwyllir yn y rheoliad hwn.
3
Mae paragraffau (1) a (4) yn gymwys mewn perthynas â pherson y cyfeirir ato yn rheoliad 8(7) pan fo’r person hwnnw yn gweithredu o dan gyfarwyddyd person awdurdodedig, fel pe bai’r person hwnnw yn berson awdurdodedig.
4
Ni fydd person awdurdodedig yn atebol mewn unrhyw achos cyfreithiol am unrhyw beth a wneir drwy arfer honedig o’r pwerau a roddwyd i’r person awdurdodedig yn rhinwedd rheoliadau 8 ac 9, os bodlonir y llys fod y weithred wedi’i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros ei gwneud a’i bod wedi ei gwneud gyda medrusrwydd a gofal rhesymol.
5
Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gweithrediad” (“the operation”) yw’r gweithrediad a gymeradwywyd y ceisiwyd mynediad i’r fangre yn ei gylch yn unol â rheoliad 8.