Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu’n wahanol—

  • ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw person y mae cymorth ariannol wedi’i roi iddo neu berson sydd wedi ymgymryd ag ymrwymiadau person o’r fath;

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd;

  • ystyr “cymorth ariannol” (“financial assistance”) yw swm a dalwyd neu sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “cymorth yr UE” (“EU assistance”) yw cymorth o Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop a roddwyd yn unol â Rheoliad 508/2014;

  • ystyr “deddfwriaeth yr UE” (“the EU legislation”) yw’r offerynnau a restrir yn yr Atodlen;

  • ystyr “gweithrediad” (“operation”) yw prosiect, contract, gweithred neu grŵp o brosiectau sydd:

    1. a

      at unrhyw un o’r dibenion a bennir yn Nheitl V o Reoliad 508/2014; a

    2. b

      sy’n gymwys i gael cymorth yr UE;

    ystyr “gweithrediad a gymeradwywyd” (“approved operation”) yw gweithrediad a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru i gael cymorth ariannol o dan reoliad 4, ac mae “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval”) i’w dehongli’n unol â hynny;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw lestr, lle, cerbyd, ôl-gerbyd neu gynhwysydd;

  • ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac mae’n cynnwys unrhyw swyddog y Comisiwn a benodwyd yn briodol ac sy’n mynd gyda’r person awdurdodedig hwnnw;

  • ystyr “Rheoliad 508/2014” (“Regulation 508/2014”) yw Rheoliad (EU) Rhif 508/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mai 2014 ar Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop4.

2

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn yr UE yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.