Adennill llog12

1

Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer y pwerau a roddir gan reoliad 11(2)(c), cânt hefyd, ar archiad, adennill llog ar y swm sydd i’w adennill, yn ôl y gyfradd o un pwynt canran uwchlaw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr mewn cysylltiad â phob diwrnod o’r cyfnod o’r diwrnod y rhoddwyd y cymorth ariannol tan y diwrnod yr adenillir y swm gan Weinidogion Cymru.

2

Ym mharagraff (1), ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr” (“Bank of England base rate”) yw—

a

ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, y gyfradd a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr fel y gyfradd fasnachu swyddogol, sef y gyfradd y mae’r Banc yn fodlon ymuno arni mewn trafodion i ddarparu hylifedd byrdymor yn y marchnadoedd arian; neu

b

os oes gorchymyn mewn grym o dan adran 19 (pwerau wrth gefn) o Ddeddf Banc Lloegr 19985, unrhyw gyfradd gyfwerth a bennir gan y Trysorlys o dan yr adran honno.

3

Mewn unrhyw achos cyfreithiol sy’n ymwneud â’r rheoliad hwn, bernir bod tystysgrif Gweinidogion Cymru sy’n datgan y gyfradd sylfaenol Banc Lloegr a oedd yn gymwys yn ystod cyfnod a bennir yn y dystysgrif yn dystiolaeth derfynol o’r gyfradd a oedd yn gymwys yn ystod y cyfnod penodedig, os yw’r dystysgrif yn datgan hefyd fod Banc Lloegr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o’r gyfradd honno.