Pwerau adennill etc.11
1
Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwerau a bennir ym mharagraff (2) pan fodlonir hwy, o ran gweithrediad a gymeradwywyd—
a
na chydymffurfiwyd, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, ag unrhyw amod y cyfeirir ato yn rheoliad 3 neu 4;
b
nad oedd y cais a gymeradwywyd felly o dan reoliad 4 (neu unrhyw ran ohono) yn gais (neu’n rhan) yr oedd y buddiolwr yn gymwys i’w wneud;
c
bod y buddiolwr neu gyflogai, gwas neu asiant y buddiolwr—
i
wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan reoliad 6, 9(1)(b), 9(1)(d) neu 9(2); neu
ii
wedi rhoi gwybodaeth am unrhyw fater perthnasol ynglŷn â rhoi’r gymeradwyaeth, sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol;
d
bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi ei gychwyn cyn y dyddiad y rhoes Gweinidogion Cymru ganiatâd ysgrifenedig i hynny ddigwydd;
e
na chydymffurfiwyd ag unrhyw ymgymeriadau a roddwyd gan y buddiolwr o dan reoliad 16;
f
bod y buddiolwr wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 10;
g
bod natur, graddfa, costau neu amseriad y gweithrediad a gymeradwywyd wedi newid mewn modd sylweddol;
h
nad oedd neu nad yw’r gweithrediad a gymeradwywyd yn cael ei gyflawni’n briodol;
i
bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi cael ei ohirio, neu yn cael ei ohirio, yn afresymol, neu’n annhebygol o gael ei gwblhau;
j
bod y cymorth ariannol yn dyblygu neu y byddai’n dyblygu cymorth a ddarparwyd neu sydd i’w ddarparu o arian a roddwyd ar gael gan—
i
yr Undeb Ewropeaidd,
ii
Gweinidogion Cymru, neu
iii
corff sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig;
k
bod y buddiolwr wedi torri unrhyw ofyniad y mae’r buddiolwr yn ddarostyngedig iddo o dan y Rheoliadau hyn neu o dan ddeddfwriaeth yr UE; neu
l
bod y gweithrediad a gymeradwywyd yn ddarostyngedig i gosbau sy’n gymwys o dan ddeddfwriaeth yr UE.
2
Y pwerau a roddir gan baragraff (1) yw’r canlynol—
a
dirymu’r gymeradwyaeth o’r gweithrediad yn gyfan gwbl neu’n rhannol;
b
lleihau neu atal unrhyw gymorth ariannol mewn cysylltiad â’r gweithrediad a gymeradwywyd;
c
adennill, ar archiad, y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth ariannol a dalwyd eisoes i’r buddiolwr.
3
Pan fo’r Comisiwn wedi penderfynu lleihau neu atal cymorth dros dro, caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwerau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).
4
At ddibenion paragraff (1)(j), mae swm yn dyblygu cymorth ariannol os telir ef, neu os byddai’n cael ei dalu, at unrhyw un o’r un dibenion.