2016 Rhif 665 (Cy. 182)
Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno3.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at bob un o offerynnau’r UE gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 20 Gorffennaf 2016.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu’n wahanol—
ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw person y mae cymorth ariannol wedi’i roi iddo neu berson sydd wedi ymgymryd ag ymrwymiadau person o’r fath;
ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd;
ystyr “cymorth ariannol” (“financial assistance”) yw swm a dalwyd neu sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn;
ystyr “cymorth yr UE” (“EU assistance”) yw cymorth o Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop a roddwyd yn unol â Rheoliad 508/2014;
ystyr “deddfwriaeth yr UE” (“the EU legislation”) yw’r offerynnau a restrir yn yr Atodlen;
ystyr “gweithrediad” (“operation”) yw prosiect, contract, gweithred neu grŵp o brosiectau sydd:
- a
at unrhyw un o’r dibenion a bennir yn Nheitl V o Reoliad 508/2014; a
- b
sy’n gymwys i gael cymorth yr UE;
ystyr “gweithrediad a gymeradwywyd” (“approved operation”) yw gweithrediad a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru i gael cymorth ariannol o dan reoliad 4, ac mae “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval”) i’w dehongli’n unol â hynny;
- a
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw lestr, lle, cerbyd, ôl-gerbyd neu gynhwysydd;
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac mae’n cynnwys unrhyw swyddog y Comisiwn a benodwyd yn briodol ac sy’n mynd gyda’r person awdurdodedig hwnnw;
ystyr “Rheoliad 508/2014” (“Regulation 508/2014”) yw Rheoliad (EU) Rhif 508/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mai 2014 ar Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop4.
2
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn yr UE yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
Cymorth ariannol3
1
Caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth ariannol i fuddiolwr mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd.
2
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud taliadau o gymorth ariannol, cânt wneud y cyfryw daliadau—
a
ar y cyfryw adeg, neu yn y cyfryw randaliadau fesul pa bynnag gyfnod neu ar ba bynnag adegau y tybiant yn briodol; a
b
yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau ynglŷn â thalu a bennir ganddynt.
Cymeradwyo gweithrediadau4
1
Rhaid i gais am gymeradwyo gweithrediad—
a
cael ei wneud yn y cyfryw ffurf ac ar y cyfryw amser sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru; a
b
cynnwys y cyfryw wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
2
Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r gweithrediad, ac os felly, cânt wneud y gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau a bennir ganddynt.
3
Caiff Gweinidogion Cymru amrywio cymeradwyaeth drwy amrywio unrhyw amod y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddo, neu drwy osod amodau.
4
Cyn amrywio cymeradwyaeth, rhaid i Weinidogion Cymru—
a
rhoi i’r buddiolwr hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn bwriadu gwneud hynny ynghyd â datganiad o’r rhesymau;
b
rhoi cyfle i’r buddiolwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfryw amser (a bennir yn yr hysbysiad o dan is-baragraff (a)) a ystyrir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru; ac
c
ystyried y sylwadau hynny.
Hysbysebu cymorth ariannol a hawliadau5
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysebu’r cymorth ariannol sydd ar gael, a darparu ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer cwblhau ceisiadau.
Darparu gwybodaeth6
1
Rhaid i fuddiolwr ddarparu i Weinidogion Cymru y cyfryw wybodaeth am weithrediad a gymeradwywyd, sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
2
Pan fo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth o dan baragraff (1), rhaid i’r buddiolwr ddarparu’r wybodaeth honno o fewn pa bynnag gyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru.
Tystiolaeth o wariant neu weithredu7
1
Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliadau o gymorth ariannol oni fodlonir hwy fod y gwariant a dynnwyd gan fuddiolwr yn briodol, neu oni fodlonir hwy fod y buddiolwr wedi cyflawni unrhyw weithredoedd sy’n angenrheidiol mewn perthynas â’r gweithrediad a gymeradwywyd.
2
At ddibenion paragraff (1), caiff y buddiolwr ddarparu tystiolaeth foddhaol i Weinidogion Cymru fod swm y gwariant yr hawlir cymorth ariannol ar ei gyfer wedi ei dynnu gan y buddiolwr.
Pwerau mynediad8
1
Caiff person awdurdodedig, ar bob adeg resymol ac ar ôl dangos ei awdurdod i wneud hynny, os gofynnir iddo, fynd i mewn i unrhyw fangre, ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat—
a
y mae gweithrediad a gymeradwywyd yn ymwneud â hi, neu
b
y mae gan y person awdurdodedig sail resymol dros gredu y deuid o hyd i ddogfennau ynddi sy’n ymwneud â gweithrediad a gymeradwywyd,
at unrhyw un o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2).
2
Y dibenion hynny yw—
a
gwirio cywirdeb unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gan fuddiolwr ynglŷn â’r gweithrediad a gymeradwywyd;
b
canfod a oes unrhyw gymorth ariannol yn daladwy neu y gellir ei adennill, neu ganfod pa swm o gymorth ariannol o’r fath sy’n daladwy neu y gellir ei adennill;
c
canfod a oes trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni neu’n cael ei chyflawni;
d
canfod rywfodd arall a yw cymorth yr UE yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon ac yn gywir; ac
e
penderfynu a ddigwyddodd unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn neu ddeddfwriaeth yr UE.
3
Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir gan warant a ddyroddwyd yn unol â pharagraff (4).
4
Caiff ynad heddwch, drwy warant lofnodedig, roi caniatâd i berson awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre (gan gynnwys mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat) a hynny, pan fo angen, gan ddefnyddio grym rhesymol, os bodlonir yr ynad, ar sail tystiolaeth ysgrifenedig a roddwyd ar lw—
a
bod sail resymol i berson awdurdodedig fynd i mewn i’r fangre at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (2); a
b
y bodlonir un o’r amodau ym mharagraff (5).
5
Yr amodau yw—
a
bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod heb warant, ac
i
hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei gyflwyno i’r meddiannydd, neu
ii
na chyflwynwyd hysbysiad o’r fath i’r meddiannydd oherwydd byddai cyflwyno hysbysiad o’r fath yn tanseilio diben neu effeithiolrwydd y mynediad;
b
bod gofyn mynd i mewn ar frys; neu
c
bod y fangre’n wag, neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.
6
Mae gwarant yn ddilys am dri mis o’r dyddiad y’i dyroddir.
7
Caiff person awdurdodedig sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd â pha bynnag bersonau eraill gydag ef, a ystyrir gan y person awdurdodedig yn angenrheidiol at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (2).
8
Rhaid i berson awdurdodedig sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag adael y fangre honno wedi ei diogelu mor effeithiol ag yr oedd cyn iddo fynd i mewn iddi.
Pwerau person awdurdodedig9
1
Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd rheoliad 8—
a
arolygu’r fangre ac unrhyw ddogfen, cofnod neu gyfarpar sydd ynddi ac y byddai’n rhesymol i’r person hwnnw gredu ei bod, neu ei fod, yn ymwneud â’r gweithrediad;
b
ei gwneud yn ofynnol fod y buddiolwr, neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i’r buddiolwr, yn dangos unrhyw ddogfen neu gofnod, neu’n darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol, sydd ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ac sy’n ymwneud â’r gweithrediad;
c
pan gedwir unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth y cyfeirir ati neu ato yn is-baragraff (b) drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at ac arolygu unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â’r ddogfen neu’r wybodaeth honno neu â’r cofnod hwnnw;
d
ei gwneud yn ofynnol ddangos i’r person awdurdodedig gopïau o unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth, neu ddetholion ohonynt, sy’n ymwneud â’r gweithrediad;
e
cymryd, a chadw am gyfnod rhesymol, unrhyw ddogfen, cofnod neu wybodaeth sy’n ymwneud â’r gweithrediad pan fo gan y person awdurdodedig reswm dros gredu y gallai fod angen y ddogfen neu’r wybodaeth honno, neu’r cofnod hwnnw, fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan y Rheoliadau hyn, a phan gedwir unrhyw ddogfen o’r fath drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol ei chynhyrchu mewn ffurf sydd yn caniatáu ei chludo ymaith ac yn ei gwneud yn weladwy a darllenadwy.
2
Rhaid i fuddiolwr, neu unrhyw gyflogai, gwas neu asiant buddiolwr, roi pob cymorth rhesymol i berson awdurdodedig mewn perthynas â’r materion a grybwyllir yn y rheoliad hwn.
3
Mae paragraffau (1) a (4) yn gymwys mewn perthynas â pherson y cyfeirir ato yn rheoliad 8(7) pan fo’r person hwnnw yn gweithredu o dan gyfarwyddyd person awdurdodedig, fel pe bai’r person hwnnw yn berson awdurdodedig.
4
Ni fydd person awdurdodedig yn atebol mewn unrhyw achos cyfreithiol am unrhyw beth a wneir drwy arfer honedig o’r pwerau a roddwyd i’r person awdurdodedig yn rhinwedd rheoliadau 8 ac 9, os bodlonir y llys fod y weithred wedi’i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros ei gwneud a’i bod wedi ei gwneud gyda medrusrwydd a gofal rhesymol.
5
Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gweithrediad” (“the operation”) yw’r gweithrediad a gymeradwywyd y ceisiwyd mynediad i’r fangre yn ei gylch yn unol â rheoliad 8.
Cadw cofnodion10
1
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i fuddiolwr gadw unrhyw anfoneb, cyfrif neu ddogfen arall ynglŷn â gweithrediad a gymeradwywyd tan ddiwedd chwe blynedd ar ôl y taliad diwethaf o gymorth ariannol a wneir iddo yn unol â’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â gweithrediad a gymeradwywyd.
2
Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfen a gymerir ymaith gan unrhyw berson a awdurdodwyd yn gyfreithlon i’w chymryd ymaith.
3
Pan fo buddiolwr, yng nghwrs arferol busnes, yn trosglwyddo’r fersiwn wreiddiol o unrhyw ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i berson arall, rhaid i’r buddiolwr gadw copi o’r ddogfen honno tan ddiwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (1).
Pwerau adennill etc.11
1
Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwerau a bennir ym mharagraff (2) pan fodlonir hwy, o ran gweithrediad a gymeradwywyd—
a
na chydymffurfiwyd, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, ag unrhyw amod y cyfeirir ato yn rheoliad 3 neu 4;
b
nad oedd y cais a gymeradwywyd felly o dan reoliad 4 (neu unrhyw ran ohono) yn gais (neu’n rhan) yr oedd y buddiolwr yn gymwys i’w wneud;
c
bod y buddiolwr neu gyflogai, gwas neu asiant y buddiolwr—
i
wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan reoliad 6, 9(1)(b), 9(1)(d) neu 9(2); neu
ii
wedi rhoi gwybodaeth am unrhyw fater perthnasol ynglŷn â rhoi’r gymeradwyaeth, sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn modd perthnasol;
d
bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi ei gychwyn cyn y dyddiad y rhoes Gweinidogion Cymru ganiatâd ysgrifenedig i hynny ddigwydd;
e
na chydymffurfiwyd ag unrhyw ymgymeriadau a roddwyd gan y buddiolwr o dan reoliad 16;
f
bod y buddiolwr wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 10;
g
bod natur, graddfa, costau neu amseriad y gweithrediad a gymeradwywyd wedi newid mewn modd sylweddol;
h
nad oedd neu nad yw’r gweithrediad a gymeradwywyd yn cael ei gyflawni’n briodol;
i
bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi cael ei ohirio, neu yn cael ei ohirio, yn afresymol, neu’n annhebygol o gael ei gwblhau;
j
bod y cymorth ariannol yn dyblygu neu y byddai’n dyblygu cymorth a ddarparwyd neu sydd i’w ddarparu o arian a roddwyd ar gael gan—
i
yr Undeb Ewropeaidd,
ii
Gweinidogion Cymru, neu
iii
corff sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig;
k
bod y buddiolwr wedi torri unrhyw ofyniad y mae’r buddiolwr yn ddarostyngedig iddo o dan y Rheoliadau hyn neu o dan ddeddfwriaeth yr UE; neu
l
bod y gweithrediad a gymeradwywyd yn ddarostyngedig i gosbau sy’n gymwys o dan ddeddfwriaeth yr UE.
2
Y pwerau a roddir gan baragraff (1) yw’r canlynol—
a
dirymu’r gymeradwyaeth o’r gweithrediad yn gyfan gwbl neu’n rhannol;
b
lleihau neu atal unrhyw gymorth ariannol mewn cysylltiad â’r gweithrediad a gymeradwywyd;
c
adennill, ar archiad, y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth ariannol a dalwyd eisoes i’r buddiolwr.
3
Pan fo’r Comisiwn wedi penderfynu lleihau neu atal cymorth dros dro, caiff Gweinidogion Cymru arfer y pwerau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).
4
At ddibenion paragraff (1)(j), mae swm yn dyblygu cymorth ariannol os telir ef, neu os byddai’n cael ei dalu, at unrhyw un o’r un dibenion.
Adennill llog12
1
Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer y pwerau a roddir gan reoliad 11(2)(c), cânt hefyd, ar archiad, adennill llog ar y swm sydd i’w adennill, yn ôl y gyfradd o un pwynt canran uwchlaw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr mewn cysylltiad â phob diwrnod o’r cyfnod o’r diwrnod y rhoddwyd y cymorth ariannol tan y diwrnod yr adenillir y swm gan Weinidogion Cymru.
2
Ym mharagraff (1), ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr” (“Bank of England base rate”) yw—
a
ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, y gyfradd a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr fel y gyfradd fasnachu swyddogol, sef y gyfradd y mae’r Banc yn fodlon ymuno arni mewn trafodion i ddarparu hylifedd byrdymor yn y marchnadoedd arian; neu
b
os oes gorchymyn mewn grym o dan adran 19 (pwerau wrth gefn) o Ddeddf Banc Lloegr 19985, unrhyw gyfradd gyfwerth a bennir gan y Trysorlys o dan yr adran honno.
3
Mewn unrhyw achos cyfreithiol sy’n ymwneud â’r rheoliad hwn, bernir bod tystysgrif Gweinidogion Cymru sy’n datgan y gyfradd sylfaenol Banc Lloegr a oedd yn gymwys yn ystod cyfnod a bennir yn y dystysgrif yn dystiolaeth derfynol o’r gyfradd a oedd yn gymwys yn ystod y cyfnod penodedig, os yw’r dystysgrif yn datgan hefyd fod Banc Lloegr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o’r gyfradd honno.
Symiau sy’n daladwy i Weinidogion Cymru yn adenilladwy fel dyled13
Mewn unrhyw achos pan fo swm i gael ei dalu i Weinidogion Cymru yn rhinwedd y Rheoliadau hyn (neu yn rhinwedd camau a gymerir o dan y Rheoliadau hyn), mae’r swm hwnnw yn adenilladwy fel dyled.
Troseddau a chosbau14
1
Mae person yn euog o drosedd—
a
os yw’r person hwnnw yn gwneud datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol gan wybod hynny, neu’n ddi-hid, er mwyn cael cymorth ariannol o dan y Rheoliadau hyn iddo’i hun neu i unrhyw berson arall;
b
os yw’r person hwnnw yn gwneud datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol gan wybod hynny, neu’n ddi-hid, mewn perthynas ag arfer, gan Weinidogion Cymru, y pwerau a bennir yn rheoliad 11(2);
c
os yw’r person hwnnw yn methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan reoliad 9(1)(b), 9(1)(d) neu reoliad 10; neu
d
os yw’r person hwnnw yn rhwystro’n fwriadol berson awdurdodedig (neu berson sy’n mynd gyda pherson awdurdodedig ac yn gweithredu o dan ei gyfarwyddyd) sy’n gweithredu i roi’r Rheoliadau hyn ar waith.
2
Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1)(a) neu (b) yn agored—
a
o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy, neu i’w garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na thri mis, neu’r ddau; neu
b
o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na dwy flynedd, neu’r ddau.
3
Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1)(c) neu (d) yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
4
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir cychwyn achos cyfreithiol am drosedd o dan baragraff (1)(c) neu (d) o fewn y cyfnod o chwe mis o’r dyddiad y bydd tystiolaeth, sy’n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau’r achos cyfreithiol, yn dod yn hysbys i’r erlynydd.
5
Ni chaniateir cychwyn unrhyw achos cyfreithiol am drosedd o dan baragraff (1)(c) neu (d) fwy na thair blynedd ar ôl cyflawni’r drosedd.
6
Pan ddygir achos cyfreithiol at ddibenion paragraff (4)—
a
bydd tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd ac yn datgan ar ba ddyddiad y daeth tystiolaeth a oedd yn ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos cyfreithiol, yn hysbys i’r erlynydd, yn dystiolaeth derfynol o’r ffaith honno;
b
bernir bod tystysgrif, sy’n datgan y mater hwnnw ac yn honni ei bod wedi ei llofnodi felly, wedi ei llofnodi felly, oni phrofir i’r gwrthwyneb.
Troseddau corfforaethol, troseddau partneriaeth a throseddau cymdeithas anghorfforedig15
1
Pan—
a
cyflawnir trosedd o dan y Rheoliadau hyn gan gorff corfforaethol neu bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig arall; a
b
profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu’n briodoladwy i unrhyw esgeulustod ar ran, unigolyn perthnasol (gan gynnwys person sy’n honni gweithredu yn rhinwedd swydd unigolyn perthnasol),
mae’r unigolyn perthnasol yn ogystal â’r corff corfforaethol, partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
2
Ym mharagraff (1), ystyr “unigolyn perthnasol” (“relevant individual”) yw—
a
mewn perthynas â chorff corfforaethol —
i
cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff hwnnw;
ii
os aelodau’r corff sy’n rheoli ei faterion, aelod;
b
mewn perthynas â phartneriaeth, partner;
c
mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig, person sy’n ymwneud â rheolaeth neu reoli’r gymdeithas.
3
Caniateir dwyn achos cyfreithiol am drosedd dan y Rheoliadau hyn, yr honnir iddi gael ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.
4
At ddibenion achosion cyfreithiol yn unol â pharagraff (3), mae’r darpariaethau canlynol yn gymwys fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol—
a
rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau;
b
adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 19256; ac
c
Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 19807.
5
Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn dilyn collfarn am drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig.
Ymgymeriadau16
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol fod buddiolwr yn rhoi pa bynnag ymgymeriadau a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru yn yr achos dan sylw.
Dirymiad a darpariaethau trosiannol17
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Cronfa Pysgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 20098 (“Rheoliadau 2009”) wedi eu dirymu.
2
Nid yw paragraff (1) yn cael effaith ar barhau i gymhwyso Rheoliadau 2009 mewn cysylltiad â cheisiadau a gafwyd gan Weinidogion Cymru cyn 31 Rhagfyr 2015.
YR ATODLENDEDDFWRIAETH YR UE
1
Rheoliad (EU) Rhif 1303/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod darpariaethau cyffredin ar Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, y Gronfa Gydlyniant, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop ac yn gosod darpariaethau cyffredinol ar Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, y Gronfa Gydlyniant a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1083/20069.
2
Rheoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 11 Rhagfyr 2013 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu, sy’n diwygio Rheoliadau y Cyngor (EC) Rhif 1184/2006 ac (EC) Rhif 1224/2009 ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/200010.
3
Rheoliad (EU) Rhif 1380/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 11 Rhagfyr 2013 ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, sy’n diwygio Rheoliadau y Cyngor (EC) Rhif 1954/2003 ac (EC) Rhif 1224/2009 ac yn diddymu Rheoliadau y Cyngor (EC) Rhif 2371/2002 ac (EC) Rhif 639/2004 a Phenderfyniad y Cyngor 2004/585/EC11.
4
Rheoliad (EU) Rhif 508/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mai 2014 ar Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop ac yn diddymu Rheoliadau y Cyngor (EC) Rhif 2328/2003, (EC) Rhif 861/2006, (EC) Rhif 1198/2006 ac (EC) Rhif 791/2007 a Rheoliad (EU) Rhif 1255/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor12.
5
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 772/2014 dyddiedig 14 Gorffennaf 2014, sy’n gosod y rheolau ar ddwyster y cymorth cyhoeddus sydd i’w gymhwyso i gyfanswm y gwariant cymwys ar weithrediadau penodol a gyllidir o dan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop13.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)