2016 Rhif 665 (Cy. 182)
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno3.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at bob un o offerynnau’r UE gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.