(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 828/2014 dyddiedig 30 Gorffennaf 2014 ynghylch y gofynion ar gyfer darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am absenoldeb glwten mewn bwyd neu fod llai o glwten yn bresennol ynddo (OJ Rhif L 228, 31.7.2014, t 5) (“Rheoliad 828/2014”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2303 (Cy. 227)) (“RhGF”) drwy—
(a)mewnosod diffiniad o Reoliad 828/2014 a thrwy ddarparu bod unrhyw gyfeiriad yn RhGF at Reoliad 828/2014 i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd (rheoliad 2(2), 2(5));
(b)darparu y caiff awdurdodau bwyd, ar ac ar ôl 20 Gorffennaf 2016, ddyroddi hysbysiadau gwella, neu erlyn ar unwaith, ar gyfer methiannau i gydymffurfio ag Erthyglau 3(1) a 4 o Reoliad 828/2014 (rheoliad 2(3), 2(4)(a), 2(6)(a), 2(7));
(c)rhoi pŵer i swyddogion awdurdodedig awdurdod bwyd neu awdurdod iechyd porthladd i fynd i mewn i eiddo er mwyn darganfod a oes, neu a fu, unrhyw achos o fynd yn groes i Erthyglau 3(1) a 4 o Reoliad 828/2014 (rheoliad 2(4)(b), 2(6)(b)).
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sy’n Addas i Bobl ag Anoddefiad tuag at Glwten (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2651 (Cy. 219)) (rheoliad 3).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.