Diwygiadau mewn perthynas ag archiadau am wasanaethau cyn ymgeisio2.
(1)
Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn Rheoliad 1(3)—
(a)
yn is-baragraff (a), ar ôl “daw’r Rheoliadau hyn i rym;” hepgorer “a”;
(b)
yn is-baragraff (ix) ar ôl “ganiatâd cynllunio)” mewnosoder “; ac”;
(c)
“(c)
i archiadau am ddarpariaeth o wasanaethau cyn ymgeisio gan awdurdod cynllunio lleol.”
(3)
“ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gwasanaethau Cyn Ymgeisio) (Cymru) 2016;” ac
“mae i “datblygiad gwastraff” (“waste development”) yr un ystyr ag yn erthygl 2(1) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu.”
(4)
“Ffioedd am archiadau am wasanaethau cyn ymgeisio o dan Reoliadau 20162A.
(1)
Pan gyflwynir archiad i awdurdod cynllunio lleol am wasanaethau cyn ymgeisio o dan Reoliadau 2016, rhaid talu ffi i’r awdurdod hwnnw.
(2)
Cyfrifir y ffi, sy’n daladwy mewn cysylltiad ag archiad am wasanaethau cyn ymgeisio, yn unol ag Atodlen 4.
(3)
Rhaid talu’r ffi i’r awdurdod cynllunio lleol y cyflwynir yr archiad iddo, a rhaid ei chyflwyno ynghyd â’r archiad.
(4)
Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a delir o dan y rheoliad hwn os gwrthodir yr archiad fel un annilys.”
(5)
Ar ôl Atodlen 3, mewnosoder yr Atodlen 4 a gynhwysir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.