NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).

Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad ag archiadau a wneir i awdurdodau cynllunio lleol am wasanaethau cyn ymgeisio(1).

Mae rheoliad 3 yn gwneud mân ddiwygiadau i reoliadau 8(3), 9(3) a 15 o Reoliadau 2015 mewn perthynas â cheisiadau am gymeradwyaeth ar gyfer materion wrth gefn. Diwygiadau canlyniadol yw’r rhain i ddiwygiadau sydd i’w gwneud i erthyglau 22 a 23 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer ffioedd gostyngedig sy’n daladwy am geisiadau o dan adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 pan fo cais blaenorol o dan adran 96A(4) o’r Ddeddf honno wedi ei wrthod, ei wrthod yn rhannol neu heb ei benderfynu o fewn y cyfnod perthnasol(2).

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â diwygiadau i geisiadau am ddatblygiad mawr, a gyflwynir cyn bo’r awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu’r cais (diwygiadau ar ôl cyflwyno).

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.

(1)

Ar gyfer gwasanaethau cyn ymgeisio, gweler Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gwasanaethau Cyn Ymgeisio) (Cymru) 2016 (O. S. 2016/61 (Cy. 31).

(2)

Y cyfnod perthnasol yw 28 diwrnod neu pa bynnag gyfnod hwy a gytunir, gweler erthygl 28A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/801 (Cy. 110).