2016 Rhif 62 (Cy. 32)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 303 a 333(2A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Yn unol ag adran 303(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.