Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o dan adrannau 61Z1 a 61Z2 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (“Deddf 1990”) ar gyfer darparu gwasanaethau gan awdurdodau cynllunio lleol cyn bo cais cymwys wedi ei wneud (“gwasanaethau cyn-ymgeisio”).
Mae rheoliad 4 yn pennu mai ceisiadau cymwys yw ceisiadau am ganiatâd cynllunio llawn ac amlinellol a cheisiadau a wneir yn unol ag adran 73 o Ddeddf 1990.
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys deisyfiadau am wasanaethau cyn-ymgeisio a’r wybodaeth sydd i’w hanfon ynghyd â deisyfiadau o’r fath.
Mae rheoliadau 6, 7 ac 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch—
y gwasanaethau cyn-ymgeisio y mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol eu darparu os gofynnir amdanynt; a
erbyn pa bryd y mae’n rhaid darparu gwasanaethau o’r fath.
Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â’r cofnodion sydd i’w cadw o ddeisyfiadau am wasanaethau cyn-ymgeisio ac o’r gwasanaethau cyn-ymgeisio a ddarperir. Mae’n gwneud darpariaeth hefyd ynglŷn â chyhoeddi gwybodaeth sy’n ymwneud â’r gwasanaethau, gan gynnwys manylion am y ffioedd sy’n daladwy.
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau arfaethedig am ganiatâd cynllunio, a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990. Mae Rhan 2 o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cyn-ymgeisio mewn cysylltiad â cheisiadau o’r fath.
Gellir cael yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac oddi ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru..