Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2016
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2016.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio2.
(a)
yn rheoliad 3(1)—
(i)
“ystyr “athro neu athrawes enwebedig” (“nominated teacher”) yw person a grybwyllir ym mharagraffau 3, 4, 5, 6 neu 7 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn ac sydd wedi ei enwebu gan y pennaeth pan fo’r pennaeth yn ystyried bod hynny’n briodol o dan yr amgylchiadau”; a
(ii)
yn y diffiniad o “anghymhwysedd proffesiynol difrifol”, yn lle “anghymhwysedd ar lefel” rhodder “cymhwysedd ar lefel”;
(b)
yn rheoliad 16, ar ôl “yn rhinwedd”, yn y man cyntaf lle y mae’n digwydd, mewnosoder “rheoliad 18A neu”;
(c)
yn rheoliad 18, ar ôl “(cofrestr a gynhelir gan y Cyngor)” mewnosoder “yn y categori athro neu athrawes ysgol”;
(d)
“RHAN 3AY gofyniad i fod yn gofrestredig: gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion
Gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion18A.
(1)
Mae gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol yn berson sy’n darparu’r gwasanaethau a bennir yn rheoliad 17 (“y gwasanaethauneu sy’n cefnogi’r ddarpariaeth o’r gwasanaethau gan athro neu athrawes ysgol.
(2)
Ni chaniateir i weithiwr cymorth dysgu mewn ysgol ddarparu’r gwasanaethau neu gefnogi’r ddarpariaeth o’r gwasanaethau gan athro neu athrawes ysgol oni bai—
(a)
ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgolion;
(b)
ei fod yn darparu’r gwasanaethau gan ryngweithio’n uniongyrchol â dysgwyr i gynorthwyo neu gefnogi gwaith athrawon ysgol neu athrawon enwebedig yn yr ysgol;
(c)
ei fod yn darparu’r gwasanaethau o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth athrawon ysgol neu athrawon enwebedig yn unol â threfniadau a wneir gan bennaeth yr ysgol; a
(d)
bod y pennaeth yn fodlon ei fod yn meddu ar y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad i ddarparu’r gwasanaethau.
(3)
Wrth benderfynu a oes gan berson y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad sy’n ofynnol i ddarparu’r gwasanaethau a bennir ym mharagraff (2)(d) mewn ysgol, rhaid i benaethiaid roi ystyriaeth i—
(a)
y safonau ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel uwch, neu’r canllawiau sy’n ymwneud â’r cymwysterau ar gyfer gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru; a
(b)
canllawiau ar y materion cytundebol sy’n ymwneud â gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan unrhyw awdurdod lleol neu gyflogwr arall.”;
(e)
“RHAN 4AY gofyniad i fod yn gofrestredig: gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach
Y gofyniad i fod yn gofrestredig: gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach19A.
Ni chaniateir i berson ddarparu’r gwasanaethau a nodir yn adran 16(2) o Ddeddf 2014 oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach.”; ac
(f)
yn Atodlen 3 hepgorer paragraff 8.
Mae Rhan 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chyngor y Gweithlu Addysg (“y Cyngor”).
Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â nifer o swyddogaethau’r Cyngor. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2015 er mwyn mewnosod Rhan 3A newydd. Mae’r Rhan 3A newydd yn darparu na chaniateir i weithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion ddarparu’r gwasanaethau a nodir yn y Rhan 3A honno oni bai eu bod yn bodloni’r meini prawf penodedig. Mae’r meini prawf penodedig yn cynnwys bod yn gofrestredig â’r Cyngor yn y gofrestr a gynhelir ganddo yn unol ag adran 9 o Ddeddf 2014 (rheoliad 2(a) ac (c) o’r Rheoliadau hyn).
Mae rheoliad 2(b) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2015 i egluro bod rhaid i athrawon cymwysedig fod wedi eu cofrestru yn y categori cofrestru athro neu athrawes ysgol er mwyn iddynt allu cyflawni’r gwaith a bennir yn rheoliad 17 o’r Rheoliadau.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2015 ymhellach er mwyn mewnosod Rhan 4A newydd. Mae’r Rhan 4A newydd yn darparu na chaiff gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach ddarparu’r gwasanaethau a nodir yn adran 16(2) o Ddeddf 2014 oni bai bod y person hwnnw wedi ei gofrestru â’r Cyngor yn y gofrestr a gynhelir ganddo yn unol ag adran 9 o Ddeddf 2014 (rheoliad 2(d) o’r Rheoliadau hyn).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.