2016 Rhif 59 (Cy. 29)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 61Z, 62ZA, 62ZB, 71ZA, 71ZB, 100A a 333(4B) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 61A, 62, 65, 71 a 74 o’r Ddeddf honno2 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 54 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 20044 ac sydd hefyd bellach yn arferadwy ganddynt hwy5, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: