Diwygiadau mewn perthynas â datganiadau dylunio a mynediad9
1
Yn lle erthygl 7 rhodder—
7
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae paragraff (3) yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio—
a
ar gyfer datblygiad mawr;
b
pan fo unrhyw ran o’r datblygiad mewn ardal ddynodedig, ar gyfer datblygiad a gyfansoddir o—
i
darparu un neu ragor o dai annedd; neu
ii
darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr a grëir gan y datblygiad yn 100 metr sgwâr neu ragor.
2
Nid yw paragraff (3) yn gymwys i—
a
cais adran 73;
b
cais am ganiatâd cynllunio—
i
ar gyfer gweithrediadau mwyngloddio;
ii
ar gyfer newid sylweddol yn y defnydd o dir neu adeiladau; neu
iii
ar gyfer datblygiad gwastraff.
3
Rhaid i gais am ganiatâd cynllunio y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad (“datganiad dylunio a mynediad”) sy’n cydymffurfio â pharagraff (4).
4
Rhaid i ddatganiad dylunio a mynediad—
a
esbonio’r egwyddorion a chysyniadau dylunio a gymhwyswyd i’r datblygiad;
b
dangos pa gamau a gymerwyd i arfarnu cyd-destun y datblygiad a’r modd y mae dyluniad y datblygiad yn cymryd i ystyriaeth y cyd-destun hwnnw;
c
esbonio’r polisi neu’r dull a fabwysiadwyd o ran mynediad, a’r modd y mae’r polisïau ynglŷn â mynediad yn y cynllun datblygu wedi eu cymryd i ystyriaeth; ac
ch
esbonio sut y rhoddwyd sylw i faterion penodol allai effeithio ar y datblygiad.
2
Yn erthygl 8(1)(c) hepgorer “neu’r datganiad mynediad, yn ôl fel y digwydd”.
3
Yn erthygl 22(3)(c) hepgorer “neu’r datganiad mynediad, yn ôl fel y digwydd”.